Miloedd o swyddi Cyfrifiad 2021 ar gael yng Nghymru

0
376

Caiff Cyfrifiad 2021 ei gynnal yn fuan a gallwch greu hanes drwy fod yn rhan o’i dîm sy’n cynnwys 30,000 o aelodau.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn recriwtio miloedd o staff maes ledled Cymru i annog pobl i gymryd rhan.

Arolwg a gaiff ei gynnal unwaith bob degawd sy’n rhoi’r amcangyfrif mwyaf cywir o’r boblogaeth a chartrefi yw’r cyfrifiad. Diwrnod y Cyfrifiad fydd 21 Mawrth.

Cynhelir gwaith maes y cyfrifiad ddiwedd mis Mawrth a dechrau mis Ebrill, gan ymweld â chartrefi nad ydynt wedi llenwi ffurflen y cyfrifiad. Ni fydd swyddogion maes byth yn mynd i mewn i dŷ rhywun.

Cedwir pellter cymdeithasol a bydd staff maes yn gwisgo cyfarpar diogelu personol (PPE) yn unol â chanllawiau’r llywodraeth. Bydd yn gweithredu’n debyg iawn i’r ffordd mae pobl wedi bod yn cael parseli ac archebion bwyd yn ystod y pandemig.

“Mae’r cyfrifiad a gaiff ei gynnal bob 10 mlynedd ychydig dros ddeufis i ffwrdd, ac mae SYG yn recriwtio miloedd o bobl mewn amrywiaeth o rolau dros dro cyffrous er mwyn ei wneud yn llwyddiant,” meddai Pete Benton, cyfarwyddwr gweithrediadau’r cyfrifiad.

“Bydd dros 30,000 o staff maes i gyd y gwanwyn hwn pan fydd y cyfrifiad ar ei anterth, a byddwn wrth fy modd pe bai gweithlu maes y cyfrifiad yn cynnwys pobl o bob rhan o Gymru a Lloegr.

“Os ydych chi’n mwynhau treulio amser allan yn y gymuned a siarad â phobl, dyma’r rôl i chi. Maent yn cadw’n ddiogel rhag COVID-19, a bydd gan y staff PPE yn unol â chanllawiau’r llywodraeth. Bydd pob swydd a gaiff ei llenwi yn helpu i sicrhau bod cymunedau ledled Cymru yn cael eu cynrychioli – dyma’ch cyfle i greu hanes.”

Mae deall anghenion y genedl yn helpu pawb, o’r llywodraeth ganolog i sefydliadau fel cynghorau ac awdurdodau iechyd, i gynllunio ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus.

Mae gwybodaeth o’r cyfrifiad hefyd yn bwysig wrth helpu llawer o bobl a sefydliadau eraill i wneud eu gwaith. Bydd elusennau a sefydliadau gwirfoddol yn defnyddio’r wybodaeth yn aml fel tystiolaeth i gael cyllid. Bydd hefyd yn helpu busnesau i ddeall eu cwsmeriaid a phenderfynu ble i agor gwasanaethau newydd.

Felly, mae’n hanfodol bod pawb – o bobl sy’n byw mewn ardaloedd cymudo i’r holl gymunedau yng nghanol dinasoedd; o’r bobl sy’n byw yng nghefn gwlad i fyfyrwyr; pob cenhedlaeth a grŵp lleiafrifoedd ethnig – yn cymryd rhan er mwyn cael y darlun gorau o’r genedl.

Bydd swyddogion y cyfrifiad yn cynnig help a chyngor i’r rhai sydd eu hangen. Byddant hefyd yn atgoffa pobl bod yn rhaid iddynt gwblhau’r cyfrifiad yn ôl y gyfraith. Mae oriau hyblyg ar gael, er y bydd disgwyl i chi weithio rhywfaint gyda’r nos ac ar benwythnosau hefyd.

Mae’r rolau hyn yn addas iawn, ond heb fod yn gyfyngedig, i’r rhai sydd â phrofiad o’r math hwn o waith, myfyrwyr neu bobl sy’n chwilio am swydd dros dro.

I gofrestru eich diddordeb ac i gael mwy o wybodaeth am yr holl swyddi sydd ar gael gyda’r cyfrifiad, ewch i https://www.swyddicyfrifiad.cymru/

I drefnu cyfweliadau cysylltwch â swyddfa’r wasg ar 0845 604 1858 neu 0203 684 5070 neu ebostiwch Media.Relations@ons.gov.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle