Rhybudd wrth i dwyllwyr dwyllo pobl i ymadael ag aur

0
401

Mae twyllwyr yn parhau i dargedu pobl mewn ffyrdd newydd, gyda dioddefwyr nawr yn cael eu holi i brynu aur a’r roi i negesydd sy’n gweithio i’r heddlu.

Wythnos diwethaf, dioddefodd dynes oedrannus yng ngorllewin Cymru dwyll negeswyr ar ôl cael ei thwyllo i gredu ei bod hi’n gweithio gyda’r heddlu er mwyn atal twyll. Cafodd ei thwyllo i brynu £25,000 o aur a’i roi i dwyllwyr.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Gareth Jordan o dîm seiberdroseddu Heddlu Dyfed-Powys bod y troseddau diweddar wedi gweld dioddefwyr yn cael eu galw gan rywun a oedd yn esgus bod yn swyddog heddlu o orsaf heddlu Paddington.

Ychwanegodd y Ditectif Gwnstabl Jordan: “Mae’r swyddog heddlu ffug yn dweud wrthynt am weithgarwch twyllodrus ar gerdyn banc yr unigolyn, neu’n dweud wrthynt fod angen iddynt drosglwyddo arian i gyfrif arall oherwydd gweithgarwch amheus.

“Rhagarweiniad i dwyll negeswyr yw hyn, lle mae rhywun yn dod i gasglu’r cerdyn banc ar ôl cael yr holl fanylion, megis y rhif PIN, wrth y dioddefydd, neu gael yr unigolyn i fynd i’r banc i dynnu arian y gellir ei gasglu’n ddiweddarach allan, neu weithiau ei drosglwyddo i gyfrifon eraill.”

Ers mis Hydref, mae’r Heddlu wedi derbyn cwynion am 62 o alwadau twyll negeswyr. Yn ffodus, sylweddolodd 52 o’r dioddefwyr posibl mai twyll ydoedd. Ataliwyd 5 twyll arall pan ymyrrodd y banc.

Yn anffodus, twyllwyd pum person gan y troseddwyr – rhoddodd dau aur, a rhoddodd tri arian. Cyfanswm eu colledion oedd £63,000.

“Yr ydym yn gweithio i sicrhau bod staff banc yn cadw llygad am arwyddion hyn, ac yn cysylltu â’u rheolwyr cangen er mwyn sicrhau bod staff yn ymwybodol,” meddai’r Ditectif Gwnstabl Jordan.

“Yr ydym yn gofyn i SCCH ymweld â banciau sydd ar agor yn eu hardaloedd a gofyn i staff banc roi gwybod i unrhyw gwsmeriaid sy’n tynnu arian allan neu’n trosglwyddo arian am y twyll hwn.

“Yn aml, mae’r twyll hwn wedi’i anelu at y genhedlaeth hŷn, sydd â pharch ar gyfer yr heddlu ac a allai fod yn fwy parod i gredu’r stori.

“Yr hyn sy’n ofidus yw y gall arwain at ragor o weithgarwch twyllodrus, gan gynnwys galw’r dioddefydd gan ddweud eu bod yn gweithio i’r banc a chael y dioddefydd i drosglwyddo arian i gyfrif arall yn y gred dwyllodrus bod ei gyfrif ei hun yn awr mewn perygl o ganlyniad i ddefnydd twyllodrus o’i gerdyn banc. Y drydedd rhan yw twyll buddsoddi a phrynu aur.”

Tair cam twyll negeswyr

Mae’r twyll yn cychwyn gydag unigolyn (dyn fel arfer) yn ffonio’r dioddefydd gan esgus bod yn swyddog heddlu. Mae’r swyddog heddlu ffug yn esbonio bod cyfrifon banc y dioddefydd dan fygythiad gan dwyllwyr.

Mae’n darbwyllo’r dioddefydd i gymryd rhan mewn ymgyrch heddlu gudd ffug er mwyn dal y twyllwyr a diogelu ei arian.

Dywedir wrtho am beidio â dweud wrth neb, gan gynnwys ei fanc, gan fod staff y banc dan amheuaeth hefyd. Yn aml, mae’r swyddog heddlu ffug yn datgelu gwybodaeth ariannol breifat am y dioddefydd. Defnyddir hyn i annog y dioddefydd i ymddiried ynddo.

Cam un: Er mwyn dylanwadu ar y dioddefydd, mae’r drwgdybyn yn holi am falansau ei gyfrifon banc a’i gyfleusterau gorddrafft. Yna, gofynnir i’r dioddefydd dynnu swm bach o arian allan (gan ddibynnu ar falans banc y dioddefydd). Gorchmynnir y dioddefydd i roi’r arian i negesydd sy’n gorfod cadarnhau cyfrinair/rhif PIN a roddir gan y drwgdybyn. Gelwir y dioddefydd nes ymlaen ar y ffôn a dywedir wrtho fod y rhan fwyaf o’r arian yn ffug.

Cam dau: Unwaith y mae’r dioddefydd yn ymddiried yn y drwgdybyn ac yn credu ei gyfarwyddiadau, rhoddir sawl rhif cyfrif banc iddo (cyfrifon mul). Gorchmynnir y dioddefydd i symud swm mawr o’i arian (o £100,000 i £300,000 yn aml iawn) i gyfrifon “diogel”. Cyfrifon mul yw’r cyfrifon hyn mewn gwirionedd. Yn aml, trydydd partïon yw dalwyr y cyfrifon buddiolwr hyn sy’n anymwybodol o ffynonellau’r credyd yn eu cyfrif. Mae’r arian yn cael ei symud yn gyflym o’r cyfrifon buddiolwr i gyfrifon y tu allan i awdurdodaeth y Deyrnas Unedig. Gellir tynnu arian o’r cyfrif buddiolwr o unrhyw beiriant twll-yn-y-wal yn y DU.

Cam tri: Gorchmynnir dioddefwyr i brynu barrau aur neu oriorau drud. Eto, rhoddir yr eitemau hyn i negesydd sy’n cadarnhau cyfrinair a roddir i’r dioddefydd dros y ffôn gan y drwgdybyn.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Jordan fod trefn y camau’n newid o ddioddefydd i ddioddefydd.

Meddai: “Mae’r drwgdybyn yn buddsoddi llawer o amser ac ymdrech mewn adeiladu perthynas â’r dioddefydd.

“Fel arfer, maen nhw’n dweud wrth y dioddefydd am beidio â datgelu manylion i unrhyw un gan fod yn rhaid i’r ‘ymgyrch’ aros yn gudd. Rhoddir stori i ddioddefwyr ar gyfer staff banc rhag ofn y bydd eu trafodion (anarferol) yn cael eu fflagio gan fesurau diogelwch y banc.”

Cofiwcha dywedwch wrth eraill . . .

Ni fydd yr heddlu, na’ch banc, byth yn gofyn ichi dynnu arian allan neu ei drosglwyddo i gyfrif arall.

Ni fydd eich banc byth yn anfon negesydd i’ch cartref.

Ni fydd eich banc na’r heddlu byth yn casglu’ch cerdyn banc.

Ni fydd eich banc na’r heddlu byth yn gofyn ichi ddatgelu’ch rhif PIN na’ch cyfrinair bancio llawn.

Os fyddwch chi’n derbyn un o’r galwadau hyn, gorffennwch yr alwad yn syth.

Peidiwch â chlicio ar ddolenni neu atodiadau mewn e-byst neu negeseuon testun amheus.

Cadarnhewch fod ceisiadau’n ddilys drwy ddefnyddio cyfeiriad e-bost neu rif hysbys er mwyn cysylltu â sefydliadau’n uniongyrchol.

Os ydych chi’n credu’ch bod chi, neu rywun yr ydych yn ei adnabod, wedi’ch targedu gan dwyllwyr, rhowch wybod inni ar-lein:

https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/, anfonwch e-bost at 101@dyfed-powys.pnn.police.uk, neu galwch 101.

Galwch 999 bob amser os ydych chi’n credu’ch bod chi mewn perygl neu niwed uniongyrchol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle