Hyfforddwr Llynges yn codi arian ar gyfer elusen leol y GIG

0
444

Does dim terfyn ar ymdrechion codi arian yr hyfforddwr llynges o Comins Coch, Aberystwyth, Gareth Whalley wrth iddo lansio raffl codi arian a fydd yn rhedeg trwy gydol mis Chwefror i gefnogi ei elusen GIG leol.

Yn ddiweddarach eleni, bydd Hyfforddwr Awyr Agored y Llynges 26 oed, y mae ei gariad yn ddarpar feddyg y GIG a’i fam yn nyrs, yn wynebu ei ofnau ac yn cymryd rhan mewn naid am nawdd ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol y GIG ar gyfer Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Dywed Gareth, “Pan fyddaf yn gwneud y naid, byddaf yn ofnus iawn. Nid wyf wedi gwneud un o’r blaen ac mae gen i ofn uchder. Unwaith y bydd y naid wedi’i gwneud, byddaf yn teimlo rhyddhad ac ymdeimlad o gyflawniad. Bydd trosglwyddo’r arian rwyf wedi’i godi o’r raffl a’r naid yn teimlo’n dda a byddaf yn teimlo fy mod i wedi gwneud gwahaniaeth.

“Rwy’n gwneud hyn i ddweud diolch enfawr i staff y GIG, sydd wedi bod trwy gymaint. Rwyf hefyd eisiau gwneud rhywbeth i godi ysbryd y cyhoedd a gwneud rhywbeth hwyl yn ystod yr amser hwn a hefyd i roi’r cyfle i bobl i ennill gwobrau gwych. “

Mae Heather mam Gareth yn nyrs yn Hywel Dda ac mae wedi gweithio yn y GIG ers dros 40 mlynedd. Dywedodd fod y teulu cyfan yn falch o Gareth, “Fy rôl bresennol yw Arweinydd Tîm Nyrsio Ysgol yng Ngheredigion ac rwyf bellach yn teimlo’n freintiedig i fod yn gydlynydd ar gyfer rhaglen imiwneiddio Covid, yn Aberteifi i ddechrau, ond bellach yng Nghanolfan Thomas Parry yn Aberystwyth sef fy nhref enedigol.

“Mae’r GIG wedi golygu llawer iawn i ni fel teulu ers pan gafodd fy merch Rhian ddiagnosis o Diabetes Math 1 yn 7 oed, a nawr gan ei bod yn feichiog gyda’i phlentyn cyntaf, mae’r gofal y mae’n ei dderbyn wedi wedi bod yn eithriadol.

“Rydyn ni fel teulu yn falch iawn o’r gwaith codi arian mae Gareth yn ei wneud i’r GIG. Bydd yn gwneud rhywbeth nad yw’n gyfforddus yn ei wneud a nawr mae wedi penderfynu codi arian pellach trwy gynnal raffl gyda gwobrau gwych sydd wedi’u rhoi gan gwmnïau lleol yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. ”

Mae wedi treulio wythnosau yn dod o hyd i wobrau o bob rhan o’r tair sir, ond dywed y bydd yn werth chweil os yw’n gallu curo ei darged codi arian o £1,000. Dywed Gareth fod y gwobrau, y gellir eu hawlio i gyd pan fydd cyfyngiadau COVID yn caniatáu, yn cynnwys gwely a brecwast i ddau mewn Gwesty Sba 4 * gyda mynediad i’r sba, rownd o golff i 4 ar gwrs Pencampwriaeth Cymru, tocyn teulu i wylio’r Sgarlets yn chwarae, rhai nwyddau blasus a thalebau.

“Mae’r raffl yn cymryd mwy o drefnu na’r naid am nawdd, ond rydw i wedi mwynhau dod o hyd i wobrau gwych. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r holl fusnesau lleol am y rhoddion caredig, hebddyn nhw ni fyddai wedi bod yn bosibl.”

Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda, “Rydyn ni bob amser yn ddiolchgar i’n cefnogwyr sydd eisiau rhoi yn ôl a dangos eu gwerthfawrogiad o’r GIG – boed yn ffordd iddyn nhw ddiolch i staff am y gofal eithriadol maen nhw neu rywun annwyl wedi ei dderbyn, neu, fel yr ydym yn ei weld ar hyn o bryd, cydnabyddiaeth gyffredinol am waith eithriadol y GIG trwy’r pandemig Coronafeirws.

“Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi fod Gareth yn wynebu ei ofnau ac yn gwneud naid am nawdd i ni yn ddiweddarach eleni, ac mae’n wych ei fod yn y cyfamser wedi dod o hyd i ffordd wych arall o godi arian a fydd yn darparu eitemau ychwanegol i gleifion a staff y tu hwnt i wariant craidd y GIG.”

I gymryd rhan yn raffl ar-lein Gareth ewch i https://raffall.com/179793/enter-raffle-to-win-hywel-dda-raffle-extravaganza-hosted-by-gareth-whalley

I ddarganfod mwy am y gefnogaeth y mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn ei gynnig ewch i: www.hywelddahealthharities.org.uk 

Gareth Whalley 

pastedGraphic.png

Yn y llun isod gwelir Heather mam Gareth gyda chydweithwyr yn y GIG yng Nghanolfan Thomas Parry yn Aberystwyth

Rhes Gefn Chwith i’r Dde

Leony Davies- Arweinydd Brechu COVID, Sue Morgan- Imiwneiddiwr, Rosemary Fletcher- Imiwneiddiwr, Leanne Carter- Cymorth Gweinyddol, Nia Jones- Imiwneiddiwr, Ann Taylor Griffiths- Imiwneiddiwr, Anne Morris- Cymorth Gweinyddol, Kath Edwards- Cymorth Gweinyddol

Rhes Flaen Chwith i’r Dde

Heather Whalley – Cydlynydd y sesiwn Imiwneiddio, Sioned Burrell- Imiwneiddiwr, Karen Williams- Cymorth Gweinyddol, Andrea Silvey- Imiwneiddiwr, Eunice Jones- Imiwneiddiwr

pastedGraphic_1.png

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle