Diwrnod Canser y Byd – elusen y GIG yn ariannu cymorth canser i blant yng ngorllewin Cymru

0
359
world cancer day

Mae heddiw’n [04/02/21] Ddiwrnod Canser y Byd – diwrnod rhyngwladol i godi ymwybyddiaeth o ganser ac i annog ei atal, ei ganfod a’i drin.

Mae diagnosis o ganser yn cael effaith ar y teulu cyfan. Diolch i haelioni ein cymunedau, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn falch o fod wedi gallu gwella’r gefnogaeth a gynigir i gleifion canser ifanc, a phlant teuluoedd y mae canser yn effeithio arnynt, y tu hwnt i’r hyn y mae’r GIG yn ei ddarparu.

Diolch i roddion hael y cyhoedd mae Gwasanaeth Allgymorth Oncoleg Paediatreg Hywel Dda wedi prynu ‘Chester Chest’, cist brosthetig a ddefnyddir ar gyfer addysgu.

Mae’r model wedi’i sefydlu gyda sawl pwynt mynediad cathetr ac fe’i defnyddir i ddangos i blant â chanser sut mae llinellau cathetr yn cael eu mewnosod a’u gweithio, ac ar gyfer staff sy’n dysgu.

Arianwyd hefyd peiriant pwysedd gwaed cludadwy i’w ddefnyddio yn ystod gwiriadau arferol yn y gymuned.

Kerri with Chester Chest paediatric oncology team

Dywedodd Kerri Rowe, Nyrs Arbenigol Allgymorth Pediatreg, fod y gwasanaeth yn galluogi plant â chanser ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i gael eu trin yn lleol, yn hytrach na gorfod teithio.

“Rydyn ni’n ffodus iawn bod llawer o bobl hael yn codi arian ar gyfer gwasanaeth oncoleg pediatreg yn lleol,” meddai Kerri.

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn prynu Pecynnau Cwmwl Canser a Llyfrau Nyrs Ted yn rheolaidd i helpu plant y mae rhywun annwyl wedi cael eu diagnosio â chanser.

Mae’r citiau cwmwl canser wedi’u cynllunio i helpu plant a phobl ifanc hyd at 16 oed i ddeall beth yw canser, y triniaethau a roddir a’r sgîl-effeithiau y gallant eu hachosi.

Maent yn gymorth i gael sgyrsiau anodd ac yn helpu’r teulu i reoli’r effaith emosiynol y gall diagnosis canser ei chael.

Mae’r llyfrau Nyrs Ted wedi’u cynllunio i helpu plant i ddeall beth sy’n digwydd i aelod o’r teulu ar ôl cael diagnosis.

Pictured with Cancer Cloud Kits & Nurse Ted Books Sarah Russell-Saw Macmillan Information and Support Co-ordinator

Dywedodd Sarah Russell-Saw, Cydlynydd Gwybodaeth a Chefnogaeth Macmillan yn y Bwrdd Iechyd: “Efallai bod gan blant lawer o gwestiynau yn ystod cyfnod mor anodd. Yn y llyfrau Nyrs Ted fe welwch lawer o wybodaeth a straeon am blant sy’n mynd trwy gyfnodau yr un mor anodd.

“Mae rhieni’n dweud wrthym eu bod yn teimlo bod y llyfrau hyn yn ddefnyddiol iawn ac mae’n braf iawn cael rhywbeth i roi i gefnogi teuluoedd.

Pictured with Cancer Cloud Kits & Nurse Ted Books Sarah Russell-Saw Macmillan Information and Support Co-ordinator

“Gall teuluoedd ei chael yn anodd, ar ôl cael diagnosis o ganser, ei gyfleu i blant. Mae cael Cit Cwmwl i’w helpu yn allweddol.

“Mae nifer o rieni wedi dweud pa mor hanfodol ydynt. Mae’r pecyn yn rhoi cefnogaeth barhaus gan fod o gymorth i blant a phobl ifanc gyda meddyliau a phryderon. “

Os hoffech chi godi arian neu roi rhodd i wella profiad cleifion canser a’u hanwyliaid, y tu hwnt i’r hyn y mae’r GIG yn ei ddarparu, cysylltwch â thîm codi arian Elusennau Iechyd Hywel Dda ar 01267 239815 neu CodiArian.HywelDda@wales.nhs.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle