Castell Caeriw a Chastell Henllys yn cau eu drysau tan y Flwyddyn Newydd

0
469

Mae Castell Caeriw a Phentref Oes Haearn Castell Henllys wedi cau eu drysau i’r cyhoedd tan 2021 o ganlyniad i effaith covid-19.

Er y bydd y ddau safle Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gau i ymwelwyr, bydd ysgolion a grwpiau’n dal yn gallu archebu ymweliadau ymlaen llaw.

Bydd Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn parhau ar agor i bawb, gydag amrywiol arddangosfeydd yn cael eu cynnal a siopau dros dro ar agor hyd at y Nadolig.

Dywedodd James Parkin, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ymwelwyr, Cymunedol a Chefn Gwlad Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Bu’n rhaid cymryd y penderfyniad anodd i gau’r ddau safle hyn fel mesur dros dro i reoli costau’r Awdurdod o ganlyniad i effaith y pandemig Coronafeirws.

“Hoffem ddiolch i’r miloedd o bobl sydd wedi ymweld â’r atyniadau hyn eleni ac edrychwn ymlaen at eich croesawu nôl yn 2021.

“Mae digon o gyfleoedd eraill i fwynau’r Parc Cenedlaethol, fel ymweld ag Oriel y Parc yn Nhyddewi neu drwy bori’r holl adnoddau ar wefan y Parc Cenedlaethol.

Os hoffech chi archebu ymweliad grŵp neu ysgol â Chastell Caeriw, anfonwch e-bost i ymholiadau@castellcaeriw.com, neu i archebu ymweliad grŵp neu ysgol â Chastell Henllys, anfonwch e-bost i ymholiadau@castellhenllys.com.

I gael manylion am holl ddigwyddiadau Awdurdod y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys y rheini sy’n cael eu cynnal yn Oriel y Parc, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol am y coronafeirws, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/coronafeirws.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle