Mae gan Menter Cwm Gwendraeth y Geiriau i gyd!

0
635

Mae Menter Cwm Gwendraeth wedi dod i’r brig mewn cystadleuaedd graddfa eang i ennill cytundeb cenedlaethol gyda Canolfan Cyngor ar Bopeth.

Mae’r cwmni wedi ei gyflogi gan CAB er mwyn darparu gwasanaeth cyfieithu dros y ddwy flynedd nesaf.

Dyma’r contract cyfieithu fwyaf mae’r cwmni wedi ei ennill a golyga fod pob dogfen a gaiff ei gynhyrchu gan CAB i’w gyfieithu i’r Gymraeg gan dîm o swyddogion sydd wedi eu lleoli ym Mhontyberem a Llanelli.

Ar ben hynny, cyfrifoldeb y tîm fydd diweddaru gwefan CAB yn unionsyth gyda chyfieithiadau Cymraeg.

Dywedodd Meinir Griffiths, cydlynnydd gwasanaethau Menter Cwm Gwendraeth: “Rydym eisioes yn darparu gwasanaethau cyfieithu, ond hwn yw ein cytundeb fwyaf o bell ffordd.

“Rydym yn falch fod CAB wedi rhoi ei ffydd mewn cwmni bychan a fu’n cystadlu am y gwaith ochr yn ochr â nifer o gwmnioedd mwy.

“Rydym hefyd yn falch fod CAB yn adnabod pwysigrwydd y Gymraeg yng nghyfathrebiad cyngor a gwybodaeth. Dilyna brif ethos Menter Cwm Gwendraeth sef dapraru gwasanaethau cymunedol tra’n datblygu’r defnydd o’r iaith Gymraeg.

“Gall ddarparu gwybodaeth trwy’r Gymraeg fod yn fuddiol iawn i fusnesau gan ei fod yn hyrwyddo cyfathrebiaeth mewn iaith sydd, yn aml, yn ddewis cyntaf i nifer o bobl”.

Caiff cytundeb CAB ei wasanaethu gan dîm fechan o staff, gan gynnwys gweithiwr newydd sydd wedi ei chyflogi drwy gronfa swyddi’r dyfodol.

Dechreuodd Hannah Jones, 22 oed o Tymbl, gyfnod o waith chwe mis gyda Menter Cwm Gwendraeth er mwyn cynorthwyo gyda gwaith gweinyddol, yn dilyn cyngor gan ei Chanolfan Byd Gwaith leol.  

Gofynnwyd iddi barhau gyda’r cwmni er mwyn cynorthwyo gyda chytundeb CAB o ganlyniad i’w heffeithiolrwydd.

“Roeddwn wedi cwblhau cwrs gweinyddu yn y coleg, ond yn cael trafferth ffeindio gwaith” meddai Hannah.

“Soniodd y Ganolfan Byd Gwaith am Gronfa Swyddi’r Dyfodol a daethant o hyd i swydd wag gyda Menter Cwm Gwendraeth. Roeddwn yn falch iawn gan ei fod yn rhywbeth sydd wastad wedi fy ymddiddori.

“ Nawr, mi rwyf yn cynorthwyo â gweinyddiaeth ac wedi derbyn hyfforddiant gan CAB er mwyn gallu diweddaru’r wefan yn unionsydd â chyfieithiadau Cymraeg”.

Mae Menter Cwm Gwendraeth hefyd yn darparu gwasanaethau iaith i amryw o gwmnioedd lleol.

Mae gwasanaethau yn cynnwys cyfieithu ar y pryd, prawfddarllen a golygu yn ogystal â dapraru cyngor a hyfforddiant ar impio ddwyieithog a llunio polisiau ddwyieithog.

Am fwy o wybodaeth ar wasanaethau iaith, cysylltwch â Meinir ar 01269871600 neu e-bostiwch meinir@mentercwmgwendraeth.org.uk.

Llun: Tîm cyfieithu Menter Cwm Gwendraeth Natalie Saunders, Hannah Jones a Hefin Jones.

Nodyn i’r wasg: Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Swyddog y Wasg Laura Grime ar 01267 224176.

Nodyn i Olygyddion

Mae Menter Cwm Gwendraeth, a sefydlwyd yn 1991 yn gweithio’n strategol ar sail Fframwaith Cynllunio Cymunedol y Cynulliad a Chyngor Sir Gaerfyrddin gan ddatblygu prosiectau ym maes Iechyd a Lles, Adfywio Cymunedol, yr Amgylchedd, Addysg Gydol Oes, Diogelwch Cymunedol a Phlant a Phobl Ifanc gan sicrhau bod y Gymraeg yn llorweddol yn natblygiad pob prosiect.

Mae’r cwmni wedi rhoi nifer o gytundebau lefel gwasanaeth ar waith ar draws Sir Gaerfyrddin ac yn gweithio gyda phartneriaid allweddol gan gynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, prifysgolion a sectorau preifat a gwirfoddol.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle