Sbort a Sbri yng Ngŵyl Llanelli

0
719

Ar ddydd Sadwrn Awst 21ain, bu Menter Cwm Gwendraeth Llanelli yn ddigon ffodus i fod ynghlwm â Gŵyl Llanelli sef gŵyl i ddathlu llwyddiannau ac ysbryd y dref a’r hyn sydd ganddo i’w gynnig.

Roedd y diwrnod yn llwyddiannus dros ben a rhaid canmol ymdrech Benita Afan Rees, aelod o bwyllgor Gymdeithas Hanes Llanelli, a chydlynydd y digwyddiad, am ei gwaith caled wrth sicrhau fod y syniad yn dod yn wirionedd.

Dechreuodd y diwrnod gyda Chadéts y Fyddin yn ymdeithio o’r neuadd ymarfer i ganolfan Selwyn Samuel, y lleoliad lle cynhaliwyd y digwyddiad. Ar ôl iddynt gyrraedd yn ddiogel, agorwyd y drysau i’r cyhoedd. Yn aros roedd dros 70 o stondinau gan wahanol fudiadau’r dre. Cafwyd gwledd o wahanol brofiadau gyda mudiadau amrywiol gan gynnwys Cymunedau’n Gyntaf, grŵp hanes Bwlch y Gwynt a Machynys, Cymdeithas Ffotograffiaeth Llanelli a Theatr Ieuenctid Llanelli yn arddangos eu gwaith.

Croesawodd cadeirydd Cymdeithas Hanes Llanelli, Peter Francis a’r Trysorydd John Williams pawb i’r digwyddiad cyn gwahodd Tegwen Devichand Cadeirydd Cyngor Sir Gaerfyrddin a Dyfrig Thomas, Maer y dref i ddweud rhai geiriau. Diolchodd Mr Thomas i Ms Rees gan ychwanegu fod diwrnod o’r fath yn profi “fod cymuned fywiog dal yn bodoli yn Llanelli a bod yn rhaid cadw ymlaen i hyrwyddo canol y dref a’r hyn sydd ganddo i’w gynnig”. Dilynwyd hyn gyda chyfarchiad gan Sharen Davies o’r Cyngor Gwledig a Nia Griffith AS dros Llanelli a ychwanegodd fod digwyddiadau o’r fath yn “cadarnhau’r gymuned a’r rhinweddau gwych ac unigryw sydd yn bodoli yn Llanelli ac yn cadarnhau’r ymdrech sydd yn cael ei wneud gan bobl Llanelli i helpu eraill i werthfawrogi’r cyffro sy’n bodoli yn y dref”. Agorwyd y digwyddiad yn swyddogol gan y Pencampwr Snwcer Rhyngwladol Terry Griffiths.

Diddanwyd y gynulleidfa gydag amryw o wahanol berfformiadau yn ystod y diwrnod gyda “Llanelli Musical Players” yn arddangos eu doniau wrth ganu amrywiaeth o ganeuon o’r sioeau, perfformiad gan gwmni theatr SA15 ac arddangosfa celf flodeuog gan y “Floral Art Society”.

Roedd yn ddiwrnod i’w gofio ac yn wir yn atgyfnerthu brwdfrydedd ac ysbryd cymunedol trigolion Llanelli yn ogystal ag ychwanegu chwistrelliad o gyffro i’r dref. Hoffai Menter Cwm Gwendraeth ddiolch am eu gwahoddiad i’r diwrnod ac edrychwn ymlaen at y flwyddyn nesaf!


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle