Yn Galw Gofalwyr Gwirfoddol a Gyrwyr

0
674

Mae Breakthro Llanelli yn rhan hanfodol o’r help sydd ar gael i drigolion Llanelli a’r cyffiniau sydd â, o ganlyniad i’w amgylchiadau, anghenion addysgol arbennig neu anableddau corfforol. Y bwriad yw rhoi cyfle i’r aelodau ymgysylltu’n gymdeithasol, yn annibynnol, o fewn amgylchfyd “diogel” a hefyd i gynnig seibiant i deuluoedd a gofalwyr.

Mae Breakthro Llanelli yn glwb ar gyfer rhyddhad, lles a gofal cymdeithasol, addysg, adloniant a difyrru amser hamdden plant ac oedolion yn ardal Llanelli a’r cyffiniau, sydd ag anableddau dysgu neu ag anghenion addysgol arbennig, gyda’r bwriad o awdurdodi, gwella eu cyflwr o fywyd a’u sgiliau integreiddio yn ogystal â chynnig seibiant i rieni, yn enwedig teuluoedd un rhiant.

Mae’n cynnig cyfleoedd cymdeithasol i aelodau na fyddai ar gael fel arall gan gynnwys teithiau i’r theatr, disgos, partïon, teithiau siopa a gwibdeithiau ac yn maethu cydweithrediad cilyddol rhwng rhieni, perthnasau, gwarchodwyr a gofalwyr o bersonau o’r fath sydd yn gyfrifol amdanynt.

Mae gan Breakthro Llanelli Glwb ddydd Sadwrn sydd yn rhedeg rhwng 1.30 a 5.30 ac yn darparu pryd o fwyd cynnes. Gofala gofalwyr gwirfoddol am yr aelodau a derbyniant hyfforddiant parhaus sy’n maethu cyfeillgarwch a dealltwriaeth. Ceir clwb sinema wythnosol yn ogystal â nifer o deithiau blynyddol i fannau o ddiddordeb sy’n ysgogi’r aelodau. Caiff yr aelodau eu casglu a’u gollwng yn eu cartrefi (heblaw am ambell daith lle y gofynnir iddynt ymgasglu mewn man arbennig, ond nid yw hyn yn aml) ac maent ar bob adeg yn cael eu hebrwng adref. Wrth iddynt brofi amrywiaeth o gyfleusterau hamdden, datblygir goddefgarwch a dealltwriaeth ymhellach o fewn y gymuned yn ogystal ag ymddygiad cadarnhaol ar eu rhan.

Os hoffech fwy o wybodaeth ynglŷn â’r gwasanaeth neu os hoffech gynnig help llaw, ffoniwch 01554 752450 neu e-bostiwch info@breakthrollanelli.org.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle