Y Gwasanaeth Cynghorydd Ffordd o Fyw – help llaw i wella eich iechyd

0
659

Ydych chi wedi cofrestru mewn un o’r meddygfeydd dilynol: Furnace House neu Nantgaredig yng Nghaerfyrddin, neu Ty Elli yn Llanelli?

Mae’r meddygfeydd yma yn cymryd rhan mewn peilot 6 mis, ble mae ymgynghorwyr ffordd o fyw ar gael unwaith yr wythnos i gwrdd â chi wyneb yn wyneb mewn amgylchedd cyfeillgar. Os ydych eisiau gwneud newidiadau cadarnhaol i’ch ffordd o fyw a gwella eich iechyd a lles, mae ymgynghorwyr ffordd o fyw ar gael i’ch cefnogi chi. Mae’r gwasanaeth yn cael ei anelu at bobl sydd eisiau bwyta’n fwy iach, rhoi’r gorau i ysmygu, yfed llai o alcohol neu wneud mwy o ymarfer corff. Dydy’r gwasanaeth ddim yn addas ar gyfer pobl sydd eisoes yn gweld eu meddyg neu nyrs yn rheolaidd am gyflyrau tymor hir, fel diabetes neu asthma.

Dywedodd pobl sydd wedi cwrdd â’r ymgynghorwyr ffordd o fyw ‘‘Rwyf wedi bod yn aros am wasanaeth fel hyn’’ ac ‘‘Mae’r gwasanaeth wedi rhoi’r gallu i mi newid fy mywyd’’.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch ag Helen Sullivan neu Sue O’Rourke, Tîm Ymgynghorwyr Ffordd o Fyw os gwelwch yn dda, dydd Llun – dydd Gwener, 9am-5pm Ffôn: 01792 776252. Neu fe allwch gael gafael ar ffurflen gyfeirio yn un o’r meddygfeydd.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle