Mae Rhwydweithiau Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio Cynllun Arfer da Iechyd y Cyhoedd gyda chyfres o weithdai ar draws Cymru.
Â
Nod y cynllun, sydd wedi bod yn cael ei ddatblygu ers dwy flynedd, yw adnabod a chefnogi arfer da mewn mentrau ym maes maeth, gweithgaredd corfforol, hybu iechyd meddwl ac iechyd rhywiol. Mae cronfa ddata wedi cael ei datblygu sy’n rhoi dull systematig o rannu gwybodaeth am fentrau er mwyn atal dyblygu, gwella dysgu a galluogi penderfyniadau ynglŷn â pha fentrau i’w mabwysiadu neu eu datblygu.
Â
Bydd marc safon yn cael ei ddyfarnu i brosiectau yr ystyrir eu bod wedi cyflawni arfer da gan y Panel Cynghori ar Arfer Da wedi ei gadeirio gan Gadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Athro Syr Mansel Aylward.
Â
Cafodd y cynllun ei lansio mewn cyfres o ddigwyddiadau a gynhaliwyd ar draws Cymru gan y rhwydweithiau er mwyn i ymarferwyr ganfod mwy am y cynllun a sut y gallai fod o fudd i’w prosiect neu eu sefydliad. Mynychodd dros 100 o bobl ar draws ystod o sefydliadau, yn cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, i wrando ar gyflwyniadau ar gefndir y cynllun, ac astudiaeth achos i ddangos y broses ar waith. Cafwyd trafodaethau grŵp hefyd i archwilio’r hyn y byddai’r cynllun yn ei olygu i ymarferwyr ac i gysylltu â mentrau y maent yn gysylltiedig â nhw.
Â
Dywedodd yr Athro Syr Mansel Aylward: “Mae’n bleser gennyf fod yn rhan o’r cynllun rhagorol hwn. Rwy’n credu bod gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ran bwysig i’w chwarae yn hyrwyddo a rhannu arfer da ac mae’r cynllun hwn yn gyfle da i wneud hynny.â€
Â
Dywedodd Malcolm Ward, Arbenigwr Hybu Iechyd y Cyhoedd, “Roedd y digwyddiadau yn ffordd ragorol i gydlynwyr y rhwydwaith ddod allan a chyfarfod â’r rheiny sy’n gweithio ym meysydd amrywiol iechyd y cyhoedd. Mae’r adborth yr ydym wedi ei gael ar y cynllun wedi bod yn galonogol iawn ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag ymarferwyr er mwyn adnabod arfer da.â€
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle
This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.
We use cookies to ensure that we give you the best experience on our website. If you continue to use this site we will assume that you are happy with it.AcceptPrivacy Policy