GWEINIDOGION YN CROESAWU ADRODDIAD Y COMISIWN AR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

0
649

GWEINIDOGION YN CROESAWU ADRODDIAD Y COMISIWN AR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

Heddiw [dydd Mawrth 30 Tachwedd], croesawodd y Gweinidogion adroddiad annibynnol ar ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Nod yr adroddiad, a gomisiynwyd gan Lywodraeth y Cynulliad, oedd edrych ar wasanaethau cymdeithasol dros y degawd nesaf.

Sefydlwyd y Comisiwn Annibynnol ar Wasanaethau Cymdeithasol ym mis Rhagfyr 2009.

Cadeirydd y Comisiwn, yr Athro Geoffrey Pearson fydd yn rhoi’r adroddiad i Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones a’r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol Gwenda Thomas.

Meddai Gwenda Thomas: “Dw i’n croesawu’r adroddiad manwl hwn.

“Mae staff y gwasanaethau cymdeithasol yn gofalu am rai o’n pobl sydd fwyaf  agored i niwed – yn hen ac yn ifanc – bob dydd. Dw i’n benderfynol bod yn rhaid i ni eu gwerthfawrogi a hefyd gweithio’n barhaus i wella’n gwasanaethau.

“Dyna pam y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi diogelu’r cyllid a roddir i’r gwasanaethau cymdeithasol trwy’r setliad Llywodraeth Leol. Mae hyn yn golygu y bydd £35m o gynnydd yn y cyllid gwirioneddol erbyn 2013-14 o ran y cymorth a roddir i wasanaethau cymdeithasol. Mae hyn yn gyfwerth â chynnydd o 3%.

“Hoffwn ddiolch i’r Athro Pearson a’i dîm am eu gwaith caled yn ymchwilio i’r problemau ac yn llunio argymhellion. Dw i’n hynod o falch bod y Comisiwn wedi cadarnhau’r rhesymau dros sicrhau bod y gwasanaethau cymdeithasol yn wasanaethau integredig sydd wedi’u lleoli o fewn llywodraeth leol ac yn cael eu harwain ganddi. Dw i o’r farn ei fod yn disgrifio’r cyd-destun mwyaf addas ar gyfer gwasanaethau llywodraeth leol.

“Bydd yr argymhellion – a chanlyniadau’r adolygiadau eraill a gomisiynwyd gennyf i’r gweithlu ac i amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed – yn llywio’r gwaith o ddatblygu Papur Gwyn ar Wasanaethau Cymdeithasol y flwyddyn nesaf.

Meddai Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones: “O gofio’r hinsawdd ariannol anodd sy’n ein hwynebu wedi’r toriadau llym a orfodwyd ar Gymru gan Lywodraeth San Steffan, mae’n bwysig bod y gwasanaethau cymdeithasol yn mynd ati i weithio gyda’i gilydd i sicrhau ein bod yn cael mwy am ein harian.

Mae casgliadau’r adroddiad hwn yn cyd-fynd â’r hyn yr ydym am ei ddarparu trwy feithrin a datblygu dulliau o gydweithio sy’n cynnal a gwella gwasanaethau lleol. Rhaid rhannu adnoddau a manteisio yn y modd mwyaf effeithiol ar sgiliau ac arbenigedd yr unigolion medrus sy’n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n bwysig cael gwared ar y ffiniau ffug a all ddatblygu rhwng gwahanol gyrff.

“Mae’r Gweinidogion dros Addysg a Llywodraeth Leol hefyd wedi comisiynu adroddiadau i chwilio am ffyrdd gwell o ddarparu gwasanaethau, gan ystyried pa wasanaethau sy’n cael eu darparu orau ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.”  


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle