Gofal a thosturi nyrsys yn "hanfodol" ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl

0
596

Gofal a thosturi nyrsys yn “hanfodol” ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl

Cadarnhaodd Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd, fod gwella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn parhau’n flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Gwnaeth y Gweinidog yr ymrwymiad yn ystod Gwobrau Blynyddol Nyrsio Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Cymru, sy’n dathlu gwaith caled ac ymroddiad nyrsys iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar draws Cymru.

Y seremoni wobrwyo yw uchafbwynt y flwyddyn ar gyfer nyrsys iechyd meddwl ac anableddau dysgu. Mae llawer ohonynt wedi dweud bod y gwobrau blynyddol yn dangos bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwerthfawrogi’r cyfraniad y mae nyrsys yn ei wneud i ofal iechyd meddwl ac anableddau dysgu ledled Cymru.

Wrth gyflwyno’r gwobrau yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd, dywedodd Edwina Hart, y Gweinidog Iechyd:

“Yn aml iawn, nid yw’r gwaith caled y mae nyrsys iechyd meddwl ac anableddau dysgu yn ei wneud yn cael ei gydnabod. Mae gan nyrsys yng Nghymru rôl sylfaenol i’w chwarae yn ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r gwobrau hyn yn cynnig cyfle i ddangos y gwaith ardderchog y mae nyrsys yn ei wneud yng Nghymru, ac i gydnabod a gwobrwyo eu cyflawniadau pwysig yn gyhoeddus.”

Mae nifer y nyrsys yng Nghymru wedi cynyddu ers 2005. Heddiw, mae nyrsys a bydwragedd yn cyfrif am 44 y cant o weithlu cyfan GIG Cymru. Fel Llywodraeth, rydym yn parhau’n ymrwymedig i fuddsoddi dros 40 y cant o gyllideb Cymru ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, er gwaetha’r toriadau i’n cyllideb gan Lywodraeth y DU.  

Iechyd meddwl yw maes gwariant unigol mwyaf y GIG. Mae’r cyllid a neilltuwyd ar ei gyfer wedi cynyddu o £387.5 miliwn yn 2008/9 i £588 miliwn yn 2010/11 – sy’n dangos ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i wella gwasanaethau ar gyfer cleifion a staff.

Bydd Mesur Iechyd Meddwl (Cymru), a gafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Rhagfyr 2010, yn cyflwyno nifer o newidiadau pwysig i’r trefniadau deddfwriaethol mewn perthynas ag asesu a thrin pobl â phroblemau iechyd meddwl.

Ychwanegodd Mrs Hart:

“Mae rhyw un o bob chwe oedolyn yn dioddef o broblemau iechyd meddwl ar unrhyw adeg benodol, ac felly mae gwella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn parhau’n flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth y Cynulliad.

“Yn ogystal â chyflwyno newidiadau deddfwriaethol a fydd yn ein helpu i wella gwasanaethau iechyd meddwl ar draws Cymru, rydym hefyd wedi lansio cynllun gweithredu cenedlaethol i leihau’r achosion o hunanladdiad ac atal hunan-niwed ac wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth geisio diwallu anghenion pobl ag anhwylderau bwyta.

“Rydym hefyd yn gweithio i wella gwasanaethau iechyd meddwl plant a gwasanaethau ar gyfer pobl sy’n dioddef o demensia, ac wedi cyflwyno Gwasanaeth Iechyd Meddwl a Lles penodedig ar gyfer cyn-filwyr ar draws Cymru.

Yn ogystal, rydym wedi buddsoddi’n sylweddol mewn cyfleusterau iechyd meddwl newydd yn y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys £41 miliwn ar gyfer dwy uned newydd Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) – un ar gyfer Gogledd Cymru yn Abergele (£15 miliwn) ac un ar gyfer De Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr (£26 miliwn); uned newydd gwerth £25 miliwn yn Wrecsam Maelor ar gyfer Gwasanaeth Aciwt i Oedolion a Henoed Eiddil eu Meddwl; buddsoddiad o £29 miliwn i ddatblygu cyfleusterau aciwt a chymunedol i gymryd lle Ysbyty Glanrhyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr; ac Uned EMI newydd gwerth £56 miliwn ar gyfer Caerdydd a’r Fro yn Llandochau.”

Dywedodd yr Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio Cymru:

“Mae nyrsys iechyd meddwl ac anableddau dysgu yn darparu cymorth a chefnogaeth werthfawr i rai o’r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas.

“Mae’r gofal a’r tosturi y mae nyrsys ar draws Cymru’n ei ddangos bob dydd yn hollbwysig. Mae’r gwobrau hyn yn dangos y gwaith arloesol sy’n digwydd ledled Cymru i wella gofal cleifion yn barhaus. Hoffwn longyfarch yr enillwyr heddiw, ond hefyd pawb a gafodd eu henwebu am wobr eleni.”

Cymru yw’r unig wlad yn Ewrop â gwobrau cenedlaethol yn benodol ar gyfer gwobrwyo nyrsys iechyd meddwl ac anableddau dysgu.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle