Comisiynu ar gyfer darparwyr gofal cymdeithasol – digwyddiad am ddim

0
605

Comisiynu ar gyfer darparwyr gofal cymdeithasol – digwyddiad am ddim

Mae WCVA a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eich gwahodd i weithdy am ddim ar gomisiynu ar gyfer darparwyr gofal cymdeithasol a chymorth tai y trydydd sector.  

Ym mis Awst 2010, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Fframwaith Comisiynu Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol, sy’n sefydlu canllawiau ac arferion da ar gyfer comisiynu gofal cymdeithasol yng Nghymru.  Cefnogir y Fframwaith gan adnodd ar-lein Gwerth Cymru – Canllaw Cynllunio Caffael, sef Cymorth sy’n Gysylltiedig â Thai a Gofal Cymdeithasol  

Mae’r gweithdai hyn wedi’u datblygu’n benodol ar gyfer darparwyr gofal cymdeithasol y trydydd sector er mwyn iddynt allu cael gafael ar rywfaint o offer comisiynu gofal cymdeithasol, a rhoi’r cyfle i’r trydydd sector ymrwymo i weithredu’r Fframwaith Gomisiynu a’i hysbysu.  

Bydd y gweithdai yn:  

  • Ystyried negeseuon allweddol ar gyfer comisiynwyr a darparwyr yn y canllawiau newydd

  • Dangos y Canllaw Cynllunio Caffael ac ystyried yr ymagwedd y mae’n nodi ar gyfer comisiynu a chaffael gwasanaethau cymorth sy’n gysylltiedig â thai a gofal cymdeithasol

  • Dangos Daffodil, y System Amcanestyniad Anghenion Gofal newydd sydd ar gael i ddarparwyr

  • Nodi cyfleoedd i ddarparwyr i ymgysylltu â’r Rhaglen Datblygu Comisiynu

  • Darparu arolwg o ganllawiau allweddol ac adroddiadau diweddar

  Caiff y digwyddiadau eu cynnal gan Gyfarwyddiaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru a Gwerth Cymru.  

  • Dydd Llun 16 Mai 2011 – Y Rhyl

  • Dydd Llun 23 Mai 2011 – Llandrindod

  • Dydd Mercher 25 Mai 2011 – Gorseinon

  Amseroedd: 10:00am i 3:30pm  

Cost: AM DDIM   I gadw lle, e-bostiwch Fiona Harris ar fharris@wcva.org.uk gan nodi eich enw, mudiad, ac unrhyw anghenion deietegol neu anghenion mynediad.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle