Sea lamprey/Llysywen bendoll y môr

0
937

Sea lamprey

The sea lamprey (Petromyzon marinus) is reasonably widespread in UK rivers where it migrates from the sea to spawn in silt beds and in some places it is still common. However, it has declined in parts of its range and has become extinct in a number of rivers. Lampreys are a ‘jawless’ fish, the most primitive of all living vertebrates, and the sea lamprey can reach lengths in excess of 2m.

They are an important species – the sea lamprey population of the river Tywi was one of the reasons why the River Tywi was designated a Special Area of Conservation (SAC) and they are also a priority Biodiversity Action Plan species.

Therefore sea lamprey populations are regularly assessed in the river. This is done by survey for ammocoetes (juvenile lampreys). Unfortunately the Tywi is considered to be in unfavourable status due to the complete absence of ammocoetes during recent surveys. This is unlikely to give a true indication of the status of sea lamprey in the Tywi as the ammocoetes are difficult to survey and are often found at lower densities compared to ammocoetes of the two other species of lamprey that occur in the Tywi – the river and brook lamprey.

In the spring of 2008 the Environment Agency Wales trialled a Dual Frequency Identification Sonar (DIDSON) on the Tywi at Ty Castell, Capel Dewi, to monitor upstream migrating adult sea lamprey. The trial not only identified the presence of a significant adult population, but also demonstrated that the DIDSON was an effective monitoring tool in a range of conditions. As such it may provide useful information on population size, the timing of the ‘run’ (movement) up the river and the migratory response of sea lamprey to environmental variables such as water temperature and flow. A DIDSON sonar was redeployed in 2009 and 2010 and the monitoring season expanded to encompass the majority of the sea lamprey migration season. In 2009 EAW estimated over 1100 and in 2010 over 2500 sea lamprey passed the DIDSON. This year monitoring to date suggests we will considerably exceed that number. It is possible that warm spring temperatures and reduced flows in the last few years have been a factor.

EAW are undertaking lamprey surveys in September this year, working collaboratively with CCW to assess the status of the species as a feature of the Tywi SAC. EAW are also collecting more detailed data on bullheads while undertaking routine surveys on the SAC rivers – they are another species for which the Tywi has been designated a SAC.

Llysywen bendoll y môr

Mae llysywod pendoll y môr (Petromyzon marinus) yn weddol helaeth eu dosbarthiad yn afonydd Prydain – y maent yn mudo iddynt o’r môr er mwyn silio mewn gwelyau llaid – ac mewn ambell fan maent yn gyffredin o hyd. Fodd bynnag mae’r rhywogaeth wedi prinhau mewn mannau ac ar ben hynny mae wedi diflannu’n llwyr o nifer o afonydd. Pysgod ‘heb enau’, sef y math mwyaf cyntefig o’r holl fertebriaid (anifeiliaid ag asgwrn cefn), yw llysywod pendoll, a gall llysywen bendoll y môr fod cymaint â 2 fetr o hyd.

Mae llysywod pendoll yn rhywogaeth bwysig – presenoldeb llysywod pendoll y môr yn afon Tywi oedd un o’r rhesymau pam y dynodwyd afon Tywi yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ac maent hefyd yn rhywogaeth flaenoriaeth yn y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth.

Felly mae niferoedd llysywod pendoll y môr yn cael eu hasesu’n rheolaidd yn afon Tywi. Gwneir hynny drwy gynnal arolwg o’r amosetau (sef y llysywod pendoll ifanc). Gwaetha’r modd ystyrir bod statws afon Tywi yn anffafriol ar hyn o bryd gan nad oedd dim amosetau wedi dod i’r golwg yn ystod yr arolygon diweddaraf. Mae’n annhebygol bod hyn yn wir arwydd o statws llysywod pendoll y môr yn afon Tywi gan ei bod yn anodd cynnal arolygon o amosetau ac yn fynych maent yn fwy gwasgaredig nag amosetau’r ddwy rywogaeth arall o lysywod pendoll sy’n byw yn afon Tywi – sef llysywod pendoll yr afon a llysywod pendoll y nant.

Yn ystod gwanwyn 2008 bu Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn cynnal prawf Sonar Adnabod Dau Amledd (DIDSON) yn afon Tywi, a hynny ger TÅ· Castell, Capel Dewi, er mwyn monitro llysywod pendoll y môr yn mudo lan yr afon. Roedd y prawf hwn nid yn unig wedi amlygu presenoldeb poblogaeth arwyddocaol o oedolion, ond hefyd wedi dangos bod y DIDSON yn arf monitro effeithiol mewn amrywiaeth eang o amgylchiadau. Felly gallai’r dull hwn roi gwybodaeth ddefnyddiol inni ynghylch maint y boblogaeth, amseriad y daith fudo lan yr afon, ac ymateb mudol llysywod pendoll y môr i ffactorau amgylcheddol amrywiol megis tymheredd a llif y dŵr. Bu ymchwilwyr yn ailddefnyddio sonar DIDSON yn yr afon yn 2009 ac yn 2010 a hynny am fwy o gyfnod er mwyn cwmpasu’r rhan fwyaf o dymor mudo llysywod pendoll y môr. Yn ôl amcangyfrif Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru roedd mwy na 1100 o lysywod pendoll y môr wedi mynd heibio i’r DIDSON yn 2009 a mwy na 2500 yn 2010. Mae ffrwyth y gwaith monitro hyd yn hyn eleni yn awgrymu y bydd y niferoedd yn dipyn mwy na niferoedd y blynyddoedd diwethaf. Mae’n bosibl bod y gwanwyn cynnes eleni a’r llif gwan yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn ffactorau o ran hyn o beth.

Bwriad yr Asiantaeth yw cynnal arolygon o lysywod pendoll y môr ym mis Medi eleni, gan gydweithio â Chyngor Cefn Gwlad Cymru i asesu statws y rhywogaeth fel un o nodweddion Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Tywi. Hefyd mae’r Asiantaeth yn casglu data mwy manwl ynghylch penlletwadau wrth gynnal arolygon rheolaidd yn yr afonydd sy’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig – a dyma rywogaeth arall y mae afon Tywi wedi ei dynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig o’i herwydd.

Article by Mike Jenkins, EAW, Carmarthenshire Biodiversity August 2011 eNewsletter.

To find out more click here.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle