Forty years on is climate change affecting our native hedgehogs?

0
515

Forty years on – is climate change affecting our native hedgehogs?

www.hedgehogstreet.org

The People’s Trust for Endangered Species (PTES) and the British Hedgehog Preservation Society (BHPS) are appealing to people to take part in a new wildlife survey to help determine whether climate change is having an impact on when hedgehogs emerge from hibernation and how this might be affecting their survival.

 

Last year, PTES and BHPS published The State of Britain’s Hedgehogs, an independent study which confirmed evidence from eight existing UK wildlife surveys that

hedgehog populations have plummeted by at least a quarter over the last decade. The decline of the species is attributed to a number of environmental factors, but with more extreme weather fluctuations recorded in recent seasons, might climate change be another contributing issue?

Research in the 1970s by Britain’s foremost expert on hedgehogs, Dr Pat Morris, revealed a direct link between hibernation and climate: hedgehogs came out of hibernation up to 3 weeks earlier in the south west of England compared with Scotland. Furthermore, in East Anglia, hedgehogs similarly spent longer in hibernation than in the London area or south west. This marked difference in hedgehog hibernation patterns across the UK shows a general trend of prolonged inactivity in proportion to the coldness and length of the winter.

It seems that age, sex and weather all appear to influence the timing of hedgehog hibernation. For example, young animals may remain fully active into December, probably looking to develop sufficient fat reserves to ensure survival during subsequent hibernation. Also, adult females that have had late litters or may still be lactating will need to feed intensively before hibernating, causing them to be active for longer than adult males. However, mild weather can also delay hedgehogs entering into hibernation or elicit premature awakening, impacting on the animal’s fat reserves and breeding times and consequently affecting the long-term survival of the species.

PTES and BHPS are asking the public to record their sightings of hedgehogs as they start to emerge in spring after hibernation. The easy-to-do survey starts on 1 February 2012 (running through till August) and can be completed online. If you are interested in taking part go to www.hedgehogstreet.org.

——————————————————————————————————————————————————–

Ar ôl deugain mlynedd – ydy’r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ein draenogod brodorol?

www.hedgehogstreet.org

Mae’r People’s Trust for Endangered Species (PTES) a’r British Hedgehog Preservation Society (BHPS) yn apelio am bobl i gymryd rhan mewn arolwg newydd o fyd natur. Pwrpas yr arolwg yw gweld a ydy’r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar yr adegau y bydd draenogod yn deffro ar ôl cysgu’r gaeaf a sut y mae hyn yn effeithio ar eu gallu i oroesi.

Y llynedd, cyhoeddodd PTES a BHPS The State of Britain’s Hedgehogs. Astudiaeth annibynnol oedd hon a oedd yn cadarnhau tystiolaeth gan wyth arolwg o fywyd gwyllt yn y DU bod nifer y draenogod wedi gostwng cymaint â chwarter yn ystod y degawd diwethaf. Mae’n bosib bod nifer o ffactorau amgylcheddol yn cyfrif am hyn, ond o ystyried y tywydd eithafol rydyn ni wedi’i gael yn ddiweddar, tybed a ydy’r newid yn yr hinsawdd hefyd yn cyfrannu at y dirywiad?

Yn y 1970au roedd y Dr Pat Morris (gynt o Royal Holloway, Prifysgol Llundain), arbenigwr mwyaf blaenllaw Prydain ar ddraenogod, wedi dangos bod cysylltiad uniongyrchol rhwng gaeafgysgu a hinsawdd: roedd draenogod yn deffro hyd at dair wythnos yn gynt yn Ne-orllewin Lloegr o’i gymharu â’r Alban. At hynny, yn East Anglia, roedd draenogod yn gaeafgysgu’n hirach nag yn ardal Llundain neu’r De-orllewin. Mae’r gwahaniaeth amlwg yma yn arferion gaeafgysgu’r draenog ar draws y DU yn dangos bod tuedd gyffredinol i’r draenog gysgu’n hirach yn ôl pa mor oer a hir yw’r gaeaf.

Yn ôl y Dr Morris: “Mae’n edrych yn debyg bod oedran, rhyw a’r tywydd yn effeithio ar gyfnodau gaeafgysgu’r draenog. Er enghraifft, gall draenogod ifanc fod yn gwbl effro hyd yn oed ym mis Rhagfyr, efallai er mwyn ceisio cael digon o fraster i fyw arno tra bydd yn gaeafgysgu. Hefyd, bydd draenogod benywaidd sydd wedi cael torraid hwyr, ac efallai’n dal i roi llaeth i’r rhai bach, yn gorfod bwydo’n ddwys cyn mynd i gysgu dros y gaeaf, ac felly maen nhw o gwmpas yn hwyrach na’r draenogod gwrywaidd. Fodd bynnag, mae tywydd mwyn hefyd yn gallu achosi i ddraenogod ohirio mynd i gysgu neu eu hannog nhw i ddeffro’n rhy fuan. Mae hynny’n gallu effeithio ar y braster sydd gan y draenog wrth gefn ac ar ei gyfnodau bridio ac mae hynny, yn ei dro, yn effeithio ar allu’r draenog i oroesi yn y tymor hir.”

Mae’r mudiadau uchod yn gofyn i bobl gofnodi faint o ddraenogod maen nhw eu gweld wrth iddyn nhw ddeffro ar ôl y gaeaf. Mae’r arolwg yn ddigon hawdd i’w wneud ac mae’n dechrau ar 1 Chwefror 2012 (ac yn para tan fis Awst) a gellir ei lenwi ar-lein. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan, cofrestrwch ar gyfer yr arolwg cyn 1 Chwefror yn www.hedgehogstreet.org.

Article provided by the Carmarthenshire Biodiversity Partnership January/February 2012 Newsletter


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle