Hyrwyddo'r Gymraeg ym maes Hamdden

0
516

Hyrwyddo’r Gymraeg ym maes Hamdden

Mae Adran Hamdden Cyngor Sir Gâr wedi bod yn cydweithio gyda Chynghorau Ynys Môn, Gwynedd a Cheredigion o dan gynllun Hyrwyddo Gweithleoedd Dwyieithog Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Nod y prosiect oedd sefydlu rhwydwaith o Bencampwyr Iaith yn y maes Hamdden ar draws siroedd y Fro Gymraeg. Mae gan y maes hamdden botensial mawr i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ar draws sbectrwm o weithgareddau a diddordebau. Bydd y Pencampwyr Iaith yn codi proffil yr iaith trwy ddefnyddio’r iaith yn y gweithle, mewn cyfarfodydd, a gyda dysgwyr.

Enwebwyd pedwar o Bencampwyr o Ganolfannau Hamdden ar draws y sir – Hannah Dunn yng Nghaerfyrddin, Huw Jones yng Nghastellnewydd Emlyn, Steffan Jones yn San Clêr a Fiona Pugh-Evans yn Rhydaman. Yn dilyn tridiau o hyfforddiant ar y cyd â’r siroedd eraill, cytunodd y Pencampwyr ar gyfres o gamau gweithredu i’w cwblhau yn ôl yn eu canolfannau.

Nododd Ian Jones, Pennaeth Hamdden a Chwaraeon y Cyngor, ” Mae bod yn rhan o’r prosiect gweithleoedd dwyieithog yma wedi bod yn gyfle euraidd i staff y canolfannau i ddatblygu’n broffesiynol ac i wneud y gorau o’u sgiliau Iaith”.

Ychwanegodd Chris Burns, Prif Weithredwr Cynorthwyol y Cyngor, “Rydym fel Cyngor, bob amser yn awyddus i gefnogi staff i weithio’n ddwyieithog yn y gweithle. Wrth feithrin hyder ein staff, gallwn sicrhau gwasanaethau dwyieithog o’r radd flaenaf i’n cwsmeriaid”.

Bydd y Cyngor yn parhau i gefnogi’r Pencampwyr yn eu gwaith a bydd cyfle i ddatblygu camau gweithredu pellach yn y dyfodol agos.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Polisi Corfforaethol drwy IaithGymraeg@sirgar.gov.uk

——————————————————————————————————————————————-

Promoting the Welsh Language in Leisure

Carmarthenshire County Council Leisure Department has been working with Anglesey, Gwynedd and Ceredigion County Councils as part of the Welsh Language Board’s Promoting Bilingual Workplaces scheme. The project aimed to establish a network of Welsh Language Champions in Leisure across the four counties. Leisure has great potential to promote the use of Welsh across a spectrum of activities and interests. The Welsh Language Champions will raise the profile of the Language using Welsh in the workplace, in meetings, and with learners.

Four Champions were nominated in the county – Hannah Dunn in Carmarthen, Huw Jones in Newcastle Emlyn, Steffan Jones in St Clears and Fiona Pugh in Ammanford. Following three days of training in conjunction with other counties, the Champions agreed on a series of actions to be completed back at their Leisure Centres.

Ian Jones, Head of Leisure and Sport noted “Being part of the bilingual workplaces project has been a golden opportunity for staff to develop professionally and to maximize their language skills”.

Chris Burns, Assistant Chief Executive of the Council added, “As a Council, we are always keen to support staff to work bilingually. In building the confidence of our staff, we can ensure high quality bilingual services to our customers “.

The Council will continue to support the Champions in their work and provide opportunities to develop further actions in the near future.

For more information, please contact the Corporate Policy Team through WelshLanguage@carmarthenshire.gov.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle