Carmarthenshire Biodiversity Newsletter Jan to March 14

0
544

The latest information from the Carmarthenshire Biodiversity Partnership:

Mynydd Llangyndeyrn

A partnership project led by Menter Cwm Gwendraeth and local commoners established to work on Mynydd Llangyndeyrn, a Site of Special Scientific Interest, received funding in 2011 from the Aggregates Levy. Cattle grids were installed along the road that runs through the common. This has enabled local graziers to put cattle back out on the common and reinstate grazing there, which would have been the traditional management there for many hundreds of years.

Scrub management and knotweed control has also been undertaken and, along with the grazing, will benefit the important heath and grassland habitats there. The woodland around the edge of the common has dormice and the RSPB Futurescapes project is working with local schools at Llangyndeyrn, Bancffosfelen and Pontyberem to build and install dormice boxes in the woods, which will be monitored.

Information panels were installed on the common, prepared by Dyfed Archaeological Trust that describe the wildlife found on the site and the important archaeological features present.

This project has demonstrated a range of benefits for wildlife, commoners and local people, in a project that aims to enable the continued sustainable use of a site that has been used by people for many thousands of years.

Mynydd Llangyndeyrn

Yn 2011 cafodd prosiect partneriaeth – a oedd wedi ei sefydlu i wneud gwaith ar Fynydd Llangyndeyrn (sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) a hynny dan arweiniad Menter Cwm Gwendraeth a’r cominwyr lleol – gyllid o Gronfa yr Ardoll Agregau. Gosodwyd gridiau gwartheg ar hyd y ffordd sy’n croesi’r comin. Yn sgil gwneud y gwaith hwnnw mae porwyr lleol wedi gallu rhoi gwartheg yn ôl ar y comin gan adfer yr hen drefn bori, sef y dull rheoli traddodiadol a fyddai wedi ei ddefnyddio yno am gannoedd o flynyddoedd.

Yn ogystal gwnaed gwaith rheoli prysgwydd a gwaredu canclwm Japan ac mae hynny, ochr yn ochr â’r pori, o fudd mawr i’r cynefinoedd rhostir a glaswelltir o bwys sydd ar y comin. Mae pathewod yn byw yn y coetiroedd sydd ar hyd cyrion y comin, ac mae prosiect Tirwedd y Dyfodol, gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, yn cydweithio â’r ysgolion lleol yn Llangyndeyrn, Bancffosfelen a Phontyberem i lunio ac i osod blychau i bathewod yn y coetiroedd. Bydd trefniadau monitro ar waith ar ôl i’r blychau gael eu gosod.

Gosodwyd paneli gwybodaeth, a oedd wedi eu llunio gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, ar y comin. Mae’r paneli yn disgrifio’r bywyd gwyllt sydd yn y cyffiniau ynghyd â’r nodweddion archeolegol pwysig.

Mae’r prosiect hwn wedi bod yn fuddiol i’r bywyd gwyllt, i’r cominwyr ac i’r bobl leol. Diben y prosiect yw sicrhau bod safle sydd wedi ei ddefnyddio gan bobl ers miloedd lawer o flynyddoedd, yn dal i gael ei ddefnyddio mewn modd cynaliadwy.

Water Vole Project Officer for Carmarthenshire and Ceredigion

The water vole (Arvicola amphibious) has faced some serious threats over the last few decades. Water voles are a protected species but are in decline due to habitat loss and predation by American mink.

The Wildlife Trust of South and West Wales has a new project starting in 2014 to map the distribution of water voles in parts of Ceredigion and Carmarthenshire. The data gathered will inform future management projects and identify the work required on specific sites. This project is funded by the Welsh Government Resilient Ecosystems Fund and by the Megan Jones legacy.

Nia Stephens has just been appointed as Water Vole Officer and will be surveying for water voles from March until October.

If you would like more information, know of any water vole sites or would like to get involved as a volunteer on the water vole project please email Nia – n.stephens@welshwildlife.org

Swyddog Prosiect Llygod Pengrwn y Dŵr ar gyfer Sir Gaerfyrddin a Cheredigion

Mae’r degawdau diwethaf wedi bod yn rhai anodd iawn i lygod pengrwn y dŵr (Arvicola amphibious). Er bod llygod pengrwn y dŵr yn rhywogaeth a warchodir, mae’r niferoedd yn dal i leihau oherwydd colli cynefinoedd ac oherwydd eu bod yn ysglyfaeth i finc, sef creadur estron a gyflwynwyd o’r America.

Mae gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru brosiect newydd sy’n cychwyn yn 2014 er mwyn mapio dosbarthiad llygod pengrwn y dŵr yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin. Bydd y data a gesglir yn sail i brosiectau rheoli yn y dyfodol ac yn sgil ei grynhoi bydd modd clustnodi’r gwaith sydd angen ei wneud ar safleoedd penodol. Cyllidir y prosiect gan arian o Gronfa Ecosystemau Gwydn Llywodraeth Cymru a chan gymynrodd Megan Jones.

Mae Nia Stephens newydd ei phenodi’n Swyddog Llygod Pengrwn y Dŵr, a bydd hi’n chwilio am lygod pengrwn y dŵr rhwng mis Mawrth a mis Hydref.

Os ydych am gael rhagor o wybodaeth, os gwyddoch am unrhyw safleoedd lle mae llygod pengrwn y dŵr, neu os ydych am fod yn wirfoddolwr, anfonwch neges e-bost at Nia – n.stephens@welshwildlife.org

More water vole news …

As part of a larger Natural Resources Wales project seeking to conserve and enhance water vole populations in the Llanelli area last November the Derek Gow Consultancy Ltd (DGC) was funded via NRW funding for the Carmarthenshire Biodiversity Partnership to help establish a population of captive-bred water voles to enable strategic reintroductions into a series of pre-identified sites in the summer of 2014. The founder water voles for this population have been collected (under licence) from Machynys golf course and Morfa Berwig in Llanelli to ensure their gene base is practicably similar to any existing populations in the area.

Traps were placed where field signs were found in the chosen sites using small chips of apple as bait. A warm nest of dry straw was placed in the back (covered end) of the trap with a quarter of apple. This provided any captured water voles with a dry nest, food and moisture. The traps were all checked twice daily.

Only water voles under 120 g were removed from the habitat as stipulated in the licence. These were underweight individuals that would be unlikely to survive the winter. Any water voles that were heavier than 120 g were released back into their surrounding habitat immediately.

Seventeen individuals were taken, consisting of seven males and 10 females. Following the over wintering of these animals, seven breeding pairs should be created in March 2014. The three other females will initially be overwintered to provide substitutes in case of mortality. If they remain un-paired in the breeding programme they will be held until the release in late summer.

The Wildlife Trust is undertaking mink trapping at strategic sites and it is hoped that voles will be able to be released next summer.

Rhagor o newyddion am lygod pengrwn y dŵr …

Fel rhan o brosiect ehangach gan Gyfoeth Naturiol Cymru i geisio gwarchod a chynyddu niferoedd llygod pengrwn y dŵr yn ardal Llanelli, ym mis Tachwedd y llynedd cyllidwyd y Derek Gow Consultancy Ltd (DGC), drwy arian gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Partneriaeth
Bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin, i helpu i fagu poblogaeth o lygod pengrwn y dŵr mewn caethiwed er mwyn gallu ailgyflwyno’r rhywogaeth yn strategol mewn cyfres o safleoedd penodedig yn ystod haf 2014. Mae’r llygod pengrwn y dŵr sy’n sylfaen ar gyfer y boblogaeth fagu hon wedi eu casglu (dan drwydded) yng nghyffiniau cwrs golff Machynys a Morfa Berwig er mwyn sicrhau bod eu genynnau’n debyg i enynnau unrhyw boblogaethau sy’n bod yn yr ardal eisoes.

Gosodwyd trapiau, ynghyd â sglodion afalau fel abwyd, yn y safleoedd dan sylw gan eu lleoli mewn mannau lle’r oedd arwyddion o bresenoldeb llygod pengrwn y dŵr. Hefyd gosodwyd nyth clyd o wellt sych yng nghefn y trap (sef y pen oedd wedi ei orchuddio) ynghyd â chwarter afal. Golygai hynny fod gan unrhyw lygod pengrwn y dŵr a ddaliwyd le sych ynghyd â bwyd llaith. Ar ben hynny roedd rhywun yn archwilio’r holl drapiau ddwywaith y dydd.

Fel y pennwyd gan y drwydded dim ond llygod pengrwn y dŵr oedd yn ysgafnach na 120g oedd yn cael eu symud o’r cynefin. Gan fod y rhain o dan bwysau roedd hi’n annhebygol y byddent yn gallu goroesi’r gaeaf. Roedd unrhyw unigolion oedd yn drymach na 120g yn cael eu dychwelyd ar unwaith i’w cynefin.

Cymerwyd 17 o unigolion, sef 7 gwryw a 10 benyw. Yn sgil cadw’r anifeiliaid hyn dros y gaeaf dylai fod saith o barau magu ar gael ym mis Mawrth 2014. Bydd y tair benyw arall yn cael eu cadw dros y gaeaf fel bod benywod wrth gefn petai un neu ragor o’r benywod yn trigo. Os na fydd gan y rhain gymar yn y rhaglen fagu byddant yn cael eu cadw’n gaeth tan iddynt gael eu rhyddhau ar ddiwedd yr haf.

Hefyd mae’r Ymddiriedolaeth Natur yn gwneud gwaith i ddal minc mewn mannau strategol, a’r gobaith yw y bydd modd rhyddhau llygod pengrwn y dŵr yn yr haf.

Genetic diversity and germination of devil’s bit scabious Laura Jones, NBGW

Work is underway to investigate the genetic diversity and germination of devil’s bit scabious (Succisa pratensis) – the food plant for endangered butterfly the marsh fritillary (Eurodryas aurinia) – with Carmarthenshire County Council, the National Botanic Garden of Wales and Aberystwyth University.

This research aims to investigate the ecology and genetics of devil’s bit scabious in order to inform site management. The project is centred on the Caeau Mynydd Mawr Special Area of Conservation (SAC) based within the Cross Hands area of Carmarthenshire. The SAC, along with associated land within the locality, is especially noted for its marshy grassland that supports the marsh fritillary butterfly.

The marsh fritillary butterfly is a threatened species in both Britain and Europe, with the Cross Hands population being one of the strongest in Wales and vital to conservation efforts. The populations of marsh fritillary are, like many butterflies, vulnerable to habitat loss.

The Caeau Mynydd Mawr Marsh Fritillary project set up by Carmarthenahire County Council therefore aims to create 100 ha of marshy grassland in favourable status for the butterfly. This will involve the management, creation and restoration of marshy grassland and key to this is that levels of devil’s bit scabious are such that the butterfly can be sustained. Furthering the understanding of the ecology and genetics of devil’s bit scabious will help to support the habitat restoration.

Surveying and sample collection from 28 sites with devil’s bit scabious in the Cross Hands area has been completed. Around 30 individual leaf samples were collected for DNA extraction in addition to seed collection for the germination studies. Population estimates for devil’s bit scabious were also taken at each site.

Devil’s bit scabious throughout the project area ranges from large, interconnected populations to those which are small and isolated. Research in other areas of Europe has shown that devil’s bit scabious is an out-crossing species (i.e. individual plants will cross pollinate with other plants). Populations that are small and isolated can contain less genetic diversity and can exhibit inbreeding depression (low fertility) leading to decreased survival.

The next step for this research is to use the collected leaf samples to analyse the genetics of devil’s bit scabious using next generation DNA sequencing techniques. The decreasing cost of DNA sequencing coupled with an increase in the amount of sequence data returned has meant that these techniques are becoming more common in answering conservation questions.

In addition, the seeds collected will be used to conduct germination studies looking at the reproductive fitness between and within the populations of devil’s bit scabious by monitoring germination rates and seedling survival. Commercial seed will be used to test factors influencing germination success in order to examine the optimum conditions for devil’s bit scabious survival.

The data generated will be used to investigate interactions between population size, genetic diversity, habitat quality and plant survival in order to provide practical conservation guidelines to the County Council’s Caeau Mynydd Mawr project.

Amrywiaeth genetig ac eginiad tamaid y cythraul – Laura Jones, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Mae prosiect ar waith gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Aberystwyth i ymchwilio i amrywiaeth genetig ac eginiad tamaid y cythraul (Succisa pratensis). Y planhigyn hwn yw bwyd brithegion y gors (Eurodryas aurinia) sef rhywogaeth o löyn byw sydd mewn perygl.

Nod y prosiect yw ymchwilio i ecoleg a geneteg tamaid y cythraul er mwyn gallu rheoli safleoedd yn well. Canolbwynt y prosiect yw Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau’r Mynydd Mawr yng nghyffiniau Cross Hands, Sir Gaerfyrddin. Mae’r Ardal Cadwraeth Arbennig hon, ynghyd â thiroedd cyfagos yn y gymdogaeth, yn nodedig am eu glaswelltiroedd corsiog sy’n gynefin i frithegion y gors.

Mae brithegion y gors yn rhywogaeth sydd dan fygythiad ym Mhrydain ac yn Ewrop, a phoblogaeth Cross Hands yw un o’r cryfaf yng Nghymru gan olygu ei bod yn hollbwysig o ran ymdrechion i warchod y rhywogaeth. Fel sy’n wir am lawer o rywogaethau o löynnod byw, mae colli cynefinoedd yn ddifaol i frithegion y gors.

Felly nod Prosiect Brithegion y Gors Caeau’r Mynydd Mawr a sefydlwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin, yw creu 100 hectar o laswelltiroedd corsiog sy’n ffafriol eu cyflwr i’r rhywogaeth. Bydd hyn yn cynnwys rheoli, creu ac adfer glaswelltiroedd corsiog. Yr elfen allweddol o ran y gwaith fydd sicrhau bod digon o damaid y cythraul yn tyfu yno i gynnal y glöynnod hyn. Bydd gwella ein dealltwriaeth o ecoleg a geneteg tamaid y cythraul yn ein helpu wrth inni adfer y cynefinoedd.

Cwblhawyd y gwaith tirfesur a chasglu samplau ar 28 safle yn ardal Cross Hands lle mae tamaid y cythraul yn tyfu. Casglwyd tua 30 o samplau o ddail unigol i dynnu’r DNA ohonynt, yn ogystal â chasglu hadau ar gyfer yr astudiaethau egino. Hefyd amcangyfrifwyd maint poblogaeth tamaid y cythraul ym mhob safle.

Ceir cryn amrywiaeth o ran poblogaethau tamaid y cythraul ledled ardal y prosiect – gan amrywio o boblogaethau mawr sy’n gysylltiedig â’i gilydd i boblogaethau bychain ac ynysig. Dengys gwaith ymchwil mewn mannau eraill yn Ewrop fod tamaid y cythraul yn rhywogaeth lle mae planhigion unigol yn croesbeillio planhigion eraill. Gall fod gan boblogaethau bychain ac ynysig lai o amrywiaeth genetig gan amlygu arwyddion o wendid yn sgil mewnfridio (lefe
l isel o ffrwythlondeb), sy’n golygu bod y boblogaeth yn llai tebygol o oroesi.

Y cam nesaf ar gyfer y gwaith ymchwil hwn yw defnyddio’r samplau dail a gasglwyd i ddadansoddi geneteg tamaid y cythraul drwy’r ddefnyddio’r technegau dilyniannu DND diweddaraf. Gan fod cost dilyniannu DNA yn gostwng, a bod cynnydd o ran swm y data dilyniannu sydd ar gael, mae modd defnyddio’r technegau hyn yn amlach i ateb cwestiynau ym maes cadwraeth.

Hefyd bydd yr hadau a gasglwyd yn cael eu defnyddio i gynnal astudiaethau egino, gan hoelio sylw ar gryfder atgenhedlu’r poblogaethau tamaid y cythraul, ac oddi mewn i’r poblogaethau hynny, drwy fonitro cyfraddau egino a goroesiad eginblanhigion. Bydd hadau masnachol yn cael eu defnyddio i roi prawf ar y ffactorau sy’n dylanwadu ar lwyddiant egino, gyda golwg ar gael yr amodau gorau posibl ar gyfer goroesiad tamaid y cythraul.

Bydd y data a grynhoir yn cael ei ddefnyddio i ymchwilio i’r berthynas ryngweithiol rhwng maint y boblogaeth, amrywiaeth genetig, ansawdd y cynefin a goroesiad planhigion er mwyn llunio canllawiau cadwraeth ymarferol ar gyfer Prosiect Caeau’r Mynydd Mawr gan y Cyngor Sir.

Volunteers helps get meadows blooming again!

The Council’s biodiversity officer, and staff and volunteers from the Wildlife Trust of South and West Wales have spent a day at Ynysdawela Nature Park in Brynamman to help restore some of the flower-rich meadows there. Funding from Natural Resources Wales has enabled the management of the damp meadows, which are increasingly scarce in the county. The meadows at Ynysdawela had not been cut for some years. This meant that they were becoming overgrown and rank and the flowery meadows were in danger of becoming dominated by grasses and rushes. By cutting the grass and collecting it up into habitat piles (great for grass snakes!) hopefully the flowers will flourish again along with all the insects that depend on them. These include the marsh fritillary butterfly (Eurodryas aurinia), which was once recorded at Ynysdawela – it hoped that this management will help bring this rare species back to the site, an important stepping stone between marsh fritillary populations at Cwm Gors and Cross Hands.

The volunteers worked very hard raking and collecting the grass and cutting back willow scrub. Supplied with tea and biscuits they put up with the rain showers with good humour.

The work party at Ynysdawela has helped re-start the management of the important meadows there and the volunteers’ help made a real difference to the amount of work that was able to be done in one day. Volunteering is a great way to get out, see some of Carmarthenshire’s amazing habitats, get fit and make friends. At this work party two people even found out they had a mutual friend in Red Deer in Alberta, Canada – amazing!’

Gwirfoddolwyr yn helpu i wella dolydd!

Treuliodd Swyddog Bioamrywiaeth y Cyngor, ynghyd â staff a gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, ddiwrnod ym Mharc Natur Ynysdawela ym Mrynaman yn helpu i adfer rhai o’r dolydd sy’n gyforiog o flodau yno. Mae’r dolydd llaith, sy’n gynefin mwyfwy prin yn y sir, yn cael eu rheoli mwyach yn sgil cael cyllid gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Nid oedd neb wedi lladd y tyfiant ar y dolydd yn Ynysdawela ers sawl blwyddyn. Oherwydd hynny roedd gordyfiant bras ar y dolydd gan olygu bod perygl y gallai’r blodau gael eu mygu gan weiriau a brwyn. Y gobaith, trwy ladd y gwair a’i gywain yn bentyrrau cynefin (sy’n wych o ran denu nadredd y gwair!), yw y bydd y blodau ynghyd â’r holl drychfilod sy’n dibynnu arnynt yn ffynnu unwaith eto. Ymhlith y trychfilod hynny y mae brithegion y gors (Eurodryas aurinia), sef rhywogaeth o löynnod byw a arferai fod yn Ynysdawela. Y gobaith yw y bydd y gwaith rheoli hwn yn helpu i ddenu’r rhywogaeth brin hon yn ôl i’r safle, sy’n garreg sarn bwysig rhwng y poblogaethau yng Nghwm-gors ac yn Cross Hands.

Bu’r gwirfoddolwyr yn gweithio’n ddiflino yn rhacanu ac yn cywain y gwair, ac yn tocio prysgwydd helyg. Gan eu bod yn cael digonedd o de a bisgedi, roedd y gwirfoddolwyr yn goddef y cawodydd â gwên ar eu hwynebau.

Mae’r gwaith hwn yn Ynys Dawela wedi bod o gymorth o ran ailgychwyn rheoli’r dolydd pwysig sydd yno, ac roedd help y gwirfoddolwyr wedi gwneud gwahaniaeth o ran yr holl waith roedd modd ei wneud mewn diwrnod. Mae gwirfoddoli yn ffordd dda o gael awyr iach ynghyd â chael golwg ar rai o gynefinoedd gwych Sir Gaerfyrddin, dod yn heini, a chwrdd â ffrindiau newydd. Yn wir yn ystod y sesiwn gwirfoddoli sylweddolodd dau o’r gwirfoddolwyr eu bod yn adnabod yr un cyfaill yn Red Deer, Alberta, Canada – ac mae hynny’n beth rhyfeddol!’

Wonderful wetlands – that help keep our feet dry!

A project in Carmarthenshire is underway that is aiming to restore important wetland habitats near Brechfa.

Carmarthenshire County Council has successfully secured funding from Natural Resources Wales’ Resilient Ecosystems Fund (REF) for a project focusing on six commons that the Council is responsible for in central Carmarthenshire – an area identified nationally as a priority area for the rare ‘raised bog’ habitat in Wales.

Commons are sites that have been traditionally managed by local communities. They can be rich in wildlife and reflect a landscape once found much more widely in the county

These wet bog habitats are one of our most important natural resources. They support many native wildlife species including important wetland plants such as cranberry and rare sphagnum mosses, and are habitats for declining bird species such as curlews and golden plovers.

These bog habitats are also important for us. They provide us with fresh water by filtering out pollution and can act as sponges, reducing flood risk through the storage of rainwater, which is then slowly released into surrounding watercourses. They can help buffer the extremes associated with climate change by storing carbon within the peat. Managing our wetland habitats appropriately has many benefits for wildlife and humans.

As well as practical management work – contractors have braved the rain to remove scrub that was invading one of the bogs – an important part of the project is liaison with the graziers and local communities to discuss management, the needs of the graziers and raise awareness of the importance of these sites.

With the REF funding the project will be able to improve the management of these six areas and will improve their value as both wildlife habitats and hopefully for grazing.

It is proposed that the project will find out as much about these sites as possible and enable long-term management that will restore resilient, robust bog habitats.

Gwlyptiroedd gwych – sy’n helpu i gadw ein traed yn sych!

Mae prosiect ar waith yn Sir Gaerfyrddin gyda golwg ar wella cyflwr gwlyptiroedd pwysig yng nghyffiniau Brechfa.

Yn sgil llwyddo i gael arian o Gronfa Ecosystemau Gwydn Cyfoeth Naturiol Cymru mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnal prosiect sydd yn hoelio sylw ar chwe chomin y mae’r Cyngor yn gyfrifol amdanynt yng nghanolbarth Sir Gaerfyrddin – sef ardal sydd wedi ei chydnabod yn genedlaethol yn ardal flaenoriaeth ar gyfer cyforgorsydd sy’n fath prin o gynefin yng Nghymru.

Yn draddodiadol mae tiroedd comin yn safleoedd sydd wedi
eu rheoli gan y cymunedau lleol. Gallant fod yn gyforiog o fywyd gwallt, ac maent yn adlewyrchu math o dirwedd oedd yn arfer bod yn llawer mwy cyffredin yn y sir.

Mae’r cynefinoedd corsydd gwlybion hyn ymhlith ein hadnoddau naturiol pwysicaf. Mae llu o rywogaethau bywyd gwyllt cynhenid yn dibynnu ar gorsydd, gan gynnwys planhigion gwlyptiroedd megis llugaeron a migwyn prin, ac maent yn gynefinoedd i adar sy’n prinhau megis gylfinirod a chwtiaid aur.

Ar ben hynny mae’r cynefinoedd hyn yn bwysig inni hefyd. Maent yn ffynhonnell dŵr glân drwy eu bod yn hidlo llygredd, a chan eu bod yn gallu gweithredu fel sbwng anferth, maent yn lleihau llifogydd drwy storio dŵr glaw, sy’n cael ei ryddhau’n raddol i’r cyrsiau dŵr cyfagos. Ar ben hynny maent yn helpu i leihau’r tywydd eithafol sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd drwy fod carbon yn cael ei gadw yn y mawn. Mae rheoli ein cynefinoedd gwlybion mewn modd priodol yn fuddiol i fywyd gwyllt ac i bobl.

Yn ogystal â gwneud gwaith rheoli ymarferol – yn wir mae contractwyr wedi bod yn llafurio yn y glaw i gael gwared â phrysgwydd oedd yn tagu un o’r corsydd – elfen bwysig o’r prosiect yw cydlynu â’r porwyr a’r cymunedau lleol i drafod yr anghenion rheoli ac anghenion y porwyr, ac i gynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y safleoedd hyn.

Yn sgil cael arian o’r Gronfa Ecosystemau Gwydn bydd modd i’r prosiect wella’r rheolaeth ar y chwe ardal hon, ynghyd â gwella eu gwerth fel cynefinoedd bywyd gwyllt a gobeithio fel tir pori.

Bwriedir i’r prosiect grynhoi cymaint o wybodaeth â phosibl am y safleoedd hyn gan roi bod i reolaeth cyfnod hir – a fydd yn adfer y corsydd gan olygu bod y cynefinoedd hyn yn rhai gwydn ac iach unwaith eto.

Mid Wales Red Squirrel Project – update

An application submitted last autumn on behalf of the Mid Wales Red Squirrel Project by the Wildlife Trust of South and West Wales (WTSWW) for the post of a project officer has been successful! Environment Wales has granted funded a contribution to a 3 day/week post for 5 years for an officer to co-ordinate grey control and work with volunteers and communities for the Red Squirrel Project. Other funding has been obtained from legacies to the Wildlife Trust , the Co-op plastic bag fund and the Waterloo Foundation. The post will build on the work of project for last 10 years. The Project is very grateful for the efforts of the WTSWW in securing this funding for this post, which has been a long-standing ambition for the project.

Another project partner – The Mammals in a Sustainable Environment Project (MISE) – undertook a hair tube survey in NRW’s Cwm Berwyn Forest (in the Ceredigion part of the project area) that resulted in hairs from reds being found. Hairs were analysed and two haplotypes (a group of genes within an organism that was inherited together from a single parent) were identified, one previously recorded and the other a new haplotype for Wales. Previously three haplotypes have been established in the mid Wales populations. Having a number of different haplotypes is good for the health of the population but it is important to maintain/create connectivity throughout the forests so that populations do not become isolated. The project partners are working to ensure that through forest management that connections are maintained.

Trapping also took place in Bryn Arau Duon (north of Pumsaint) last summer and trapped reds were pit tagged. Ten individuals were trapped, and some were re-captured and found to have travelled quite far between traps.

This year MISE aim to put hair tubes in new parts of Tywi and to trap in Cwm Berwyn. They have done a great job engaging with volunteers and there is a small volunteer group that has formed. The new project officer should be able to help with developing this.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect Gwiwerod Coch Canolbarth Cymru

Mae cais a gyflwynwyd yn ystod hydref y llynedd ar ran Prosiect Gwiwerod Coch Canolbarth Cymru gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru am arian i dalu am swydd swyddog prosiect wedi bod yn llwyddiannus! Cafodd y Prosiect Gwiwerod Coch grant gan Amgylchedd Cymru tuag at gynnal swydd swyddog i gydgysylltu rheoli gwiwerod llwyd ac i gydweithio â’r gwirfoddolwyr a’r cymunedau lleol, a hynny am 3 diwrnod yr wythnos am 5 mlynedd. Hefyd cafwyd cyllid o amrywiaeth o ffynonellau eraill gan gynnwys cymynroddion i’r Ymddiriedolaeth Natur, cronfa bagiau plastig y Co-op a’r Waterloo Foundation. Bydd y swydd yn adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei wneud gan y prosiect yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Mae’r Prosiect yn dra diolchgar i Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru am sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer y swydd hon, sydd wedi bod yn nod gan y prosiect ers amser maith.

Cynhaliodd un o bartneriaid eraill y prosiect – sef Mamaliaid mewn Amgylchedd Cynaliadwy – arolwg tiwbiau blew yng Nghoedwig Cwm Berwyn, sy’n eiddo i Gyfoeth Naturiol Cymru, gan wneud hynny yn y rhan o ardal y prosiect sydd yng Ngheredigion. Yn sgil y gwaith hwnnw cofnodwyd blew gwiwerod coch. Dadansoddwyd y blew a chlustnodwyd dau haploteip (sef grŵp o enynnau mewn organeb a etifeddwyd gan un rhiant) roedd y naill wedi ei gofnodi o’r blaen ond roedd y llall yn haploteip newydd yng Nghymru. Cyn hynny roedd tri haploteip wedi eu sefydlu ym mhoblogaeth canolbarth Cymru. Mae cael nifer o wahanol haploteipiau yn beth da o ran iechyd y boblogaeth ond mae’n bwysig cynnal / gwella’r cysylltiadau trwy’r coedwigoedd er mwyn sicrhau nad yw’r poblogaethau’n cael eu hynysu. Mae partneriaid y prosiect yn cydweithio er mwyn sicrhau bod y cysylltiadau’n cael eu cynnal drwy rheoli’r coedwigoedd.

Hefyd gwnaed gwaith trapio yn ardal Bryn Arau Duon (i’r gogledd o Bumsaint) yn ystod haf y llynedd pryd y daliwyd gwiwerod coch a’u tagio. Daliwyd deg unigolyn ac mae rhai ohonynt wedi eu dal eto yn y cyfamser pryd y gwelwyd eu bod wedi teithio cryn bellter rhwng y trapiau.

Bwriad y prosiect Mamaliaid mewn Amgylchedd Cynaliadwy eleni yw gosod tiwbiau blew mewn rhannau newydd o Goedwig Tywi, a gwneud gwaith trapio yng Nghwm Berwyn. Mae’r prosiect wedi gwneud gwaith gwych o ran ysgogi gwirfoddolwyr, a bellach ffurfiwyd grŵp bychan o wirfoddolwyr. Y gobaith yw y bydd y swyddog prosiect newydd yn gallu helpu i ddatblygu’r agwedd hon.

Anglers working to improve spawning grounds for fish

Established in 1894, the Carmarthen Amateur Angling Association (CAAA) is one of the oldest in Wales. Their 400 members fish for sewin, trout and salmon on the rivers Tywi, Gwili and Cothi.

Over the last 2 years they have invested considerable time and effort engaging with the Welsh Government initiative ‘Wild Fishing Wales’ (WFW). The initiative which was administered by the Natural Resources Wales, recognises the economic benefit of angling to the Welsh economy and seeks to enhance that benefit in a sustainable manner by improving access to angling and protecting the habitats upon which it depends.

In terms of habitat protection, the CAAA chose to begin by concentrating on the Nant Crychiau, an important spawning tributary of the Gwili, on the outskirts of Carmarthen. Over the last 2 years they have cleared obstructions to aid the fish on their way to the spawning tributaries and have been negotiating with landowners to allow for the creation of miles of protective buffer strips.

Using funding from the WFW, together with additional monies from the Carmarthenshire Environme
nt Partnership they have been able to establish a buffer strip along almost 2 miles of the lower Crychiau system. Fences have been erected up to 2 m out from stream edge. This will prevent poaching from cattle (which causes siltation of spawning gravels), but drinking bays in the stream have been installed to allow cattle access to water.

That’s a good start but they still have some 6.5 miles to go!

Pysgotwyr yn gwella llecynnau silio pysgod

Mae Cymdeithas Bysgota Amatur Caerfyrddin (CAAA), a sefydlwyd ym 1894, yn un o’r cymdeithasau hynaf yng Nghymru. Mae’r 400 o aelodau yn pysgota am sewiniaid, brithyllod ac eogiaid yn afonydd Tywi, Gwili a Chothi.

Yn ystod y 2 flynedd diwethaf mae’r gymdeithas wedi buddsoddi’n helaeth, o ran amser ac ymdrechion, ym menter Pysgota Gwyllt Cymru gan Lywodraeth Cymru. Mae’r fenter, sy’n cael ei gweinyddu gan Gyfoeth Naturiol Cymru, yn cydnabod bod pysgota’n fuddiol iawn i economi Cymru ac yn ceisio cynyddu’r buddion hynny mewn modd cynaliadwy drwy wella mynediad i bysgota a thrwy ddiogelu’r cynefinoedd y mae pysgotwyr yn dibynnu arnynt.

O ran diogelu cynefinoedd, dewisodd CAAA ddechrau ar y gwaith drwy hoelio sylw ar Nant Crychiau, sy’n un o isafonydd silio pwysig afon Gwili ar gyrion Caerfyrddin. Dros y 2 flynedd diwethaf mae’r gymdeithas wedi bod yn clirio rhwystrau er mwyn ei gwneud yn haws i’r pysgod gyrraedd eu llecynnau silio, ac mae wedi bod yn trafod â’r perchenogion tir gyda golwg ar greu llain glustogi am filltiroedd ar hyd glannau’r nant.

Gan ddefnyddio cyllid gan Bysgota Gwyllt Cymru, ynghyd ag arian ychwanegol gan Bartneriaeth Amgylcheddol Sir Gaerfyrddin, mae’r gymdeithas wedi gallu creu llain glustogi am bron i 2 filltir ar hyd cyrion isaf Nant Crychiau. Codwyd ffensys hyd at 2 fetr o lan y nant. Bydd y rhain yn atal damsang gan wartheg (sy’n achosi i’r graean yn y llecynnau silio lenwi â llaid) ond mae mannau yfed wedi eu neilltuo yn y nant er mwyn i wartheg allu cyrraedd y dŵr i yfed.

Dyma ddechreuad da ond mae rhyw 6.5 o filltiroedd ar ôl!

Beach Strandings of Marine Animals

The extreme storms this winter have seen strandings of marine animals along our coastline, including a very young Kemp’s Ridley (Lepidochelys kempii) on Pembrey Beach.

All stranded cetaceans (dolphins, whales and porpoises) in England and Wales are the property of the Crown. This law came into place under the reign of Edward II! In modern times this has been devolved to the ‘Receiver of Wreck’ who is embedded within the Coastguard Agency.

All cetaceans and all marine turtles are protected by the “Conservation (Natural Habitats, &c) Regulations and this means that it is illegal to possess and transport dead specimens and/or derivatives of these species without a licence.

The Cetacean Strandings Investigation Programme (CSIP) is a UK-government funded research programme. The Receiver of Wreck is automatically informed by CSIP on receiving a stranding report.

All stranded cetaceans (and basking sharks) are recorded to a UK national database irrespective of condition, a limited number of cetaceans in a fresh condition will be recovered for full post-mortem examination. Large whales may be examined on the beach.

For marine turtles it is the same as above but all live and dead marine turtles are recorded and recovered if in suitable condition.

Funding for post-mortem examinations of seals was withdrawn in 1994, however the database has still been maintained so reports of all dead seal strandings would be greatly appreciated by CSIP.

If you find an animal on the beach- dead or alive do not handle it but call the The UK National Reporting Line. It is is a freephone number 0800 6520333. Live and dead strandings can be reported here and stepped menu system will get the report to the right place.

Anifeiliaid môr wedi eu tirio

O ganlyniad i’r stormydd garw dros y gaeaf mae llawer o anifeiliaid môr wedi eu tirio ar hyd ein harfordir gan gynnwys môr-grwban pendew Kemp (Lepidochelys kempii) ifanc iawn ar draeth Cefn Sidan.

Eiddo’r Goron yw’r holl ddolffiniaid, morfilod a llamhidyddion (teulu’r morfilod) sy’n cael eu hysgubo i’r lan yng Nghymru a Lloegr. Daeth y ddeddf hon i rym yn ystod teyrnasiad Edward II! Erbyn ein hoes ni y Derbynnydd Drylliadau, sy’n rhan o Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau, sydd â’r swyddogaeth hon.

Diogelir holl deulu’r morfilod a’r holl fôr-grwbanod gan y Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol etc) sy’n golygu bod meddu ar sbesimenau marw a/neu’r hyn sy’n deillio ohonynt neu gludo’r rhain yn anghyfreithlon heb drwydded.

Rhaglen ymchwil a gyllidir gan Lywodraeth Prydain yw’r Cetacean Strandings Investigation Programme (CSIP). Mae’r Derbynnydd Drylliadau yn cael gwybod gan y CSIP am bob anifail môr sy’n dod i’r lan.

Mae’r holl anifeiliaid o deulu’r morfilod (ynghyd â heulgwn) sy’n dod i’r lan yn cael eu cofnodi mewn cronfa ddata ar gyfer Prydain ni waeth beth yw eu cyflwr, ac yn achos teulu’r morfilod mae nifer bychan sydd newydd drigo yn cael archwiliad post-mortem llawn. Mae’n bosibl yn achos morfilod mawr y cynhelir yr archwiliad ar y traeth.

Mae’r un peth yn wir yn achos môr-grwbanod ond bod yr holl fôr-grwbanod boed yn fyw neu’n farw yn cael eu cofnodi ac yn cael eu harchwilio os yw eu cyflwr yn addas.

Rhoddwyd y gorau i ariannu archwiliadau post-mortem yn achos morloi ym 1994, ond mae’r gronfa ddata yn dal i gael ei chynnal felly mae’r CSIP yn gwerthfawrogi cael gwybodaeth am forloi marw.

Os dewch chi o byd i anifail ar y traeth – yn fyw neu’n farw – peidiwch â chyfwrdd ag ef; yn hytrach ffoniwch yr UK National Reporting Line. Y rhif rhadffôn yw 0800 6520333. Gallwch roi gwybod am anifeiliaid byw neu farw sydd wedi dod i’r lan, a bydd y cofnod yn cyrraedd y man priodol drwy ddefnyddio’r system ddewislen fesul cam.

CWM Community and Environmental Fund

The CWM Community and Environmental Fund is a grant programme for Carmarthenshire’s community and voluntary groups, funded by CWM Environmental Limited. Grants of between £5,000 and £50,000 are available:

Each year, the Fund has approximately £200,000 available and this is distributed through two funding rounds. The next deadline for applications is 12 noon on 7th April 2014.

Amongst the type of projects the Fund is particularly looking to support are:

  • Projects that will create or improve a variety of public amenities. This includes nature reserves and community greenspaces, such as ponds and orchards.
  • Projects that will help to conserve species and habitats which are locally and/or nationally important.

To be eligible for a grant, projects must be in Carmarthenshire and fall within 10 miles of a licensed landfill site. The good news is that most of the county is eligible. However, groups with projects in Cilycwm, Llandovery and Llangadog should contact GrantScape before applying to check that they fall within the funding area.

The Fund is managed for CWM by GrantScape. If you have a project that you would like to discuss, please call their Grant Manager, Andrew Budd, on: 01908 247638.

The Fund’s full eligibility criteria and details of how to apply for a grant are available from GrantScape’s website: http://www.grantscape.org.uk/grantshome/applyforagrant/CWM1

Cronfa Gymunedol ac Amgylcheddol CWM

Rhaglen grantiau ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol Sir Gaer
fyrddin yw Cronfa Gymunedol ac Amgylcheddol CWM sy’n cael ei chyllido gan CWM Environmental Ltd. Mae’r grantiau a roddir rhwng £5,000 a £50,000:

Bob blwyddyn mae gan y Gronfa ryw £200,000 ar gael, a dosberthir yr arian hwn drwy ddau gylch cyllido. Y dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau yw 12 canol dydd ar 7fed Ebrill 2014.

Y mathau o brosiectau y mae’r Gronfa’n awyddus iawn i’w cefnogi:

  • Prosiectau sy’n creu neu’n gwella amrywiaeth o amwynderau cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys gwarchodfeydd natur a gwyrddfannau cymunedol megis pyllau a pherllannau.
  • Prosiectau sy’n helpu i warchod rhywogaethau a chynefinoedd sydd o bwys yn lleol a/neu’n genedlaethol.

I fod yn gymwys mae’n rhaid i brosiect fod yn Sir Gaerfyrddin ac o fewn 10 milltir i safle tirlenwi trwyddedig. Y newyddion da yw bod y rhan fwyaf o’r sir yn gymwys. Fodd bynnag, dylai grwpiau sydd â phrosiectau yn ardaloedd Cil-y-cwm, Llanymddyfri a Llangadog gysylltu â GrantScape cyn cyflwyno cais er mwyn gweld a ydynt yn yr ardal ariannu.

Rheolir y Gronfa ar ran CWM gan GrantScape. Os oes gennych brosiect yr hoffech ei drafod cysylltwch ag Andrew Budd, y Rheolwr Grantiau, drwy ffonio: 01908 247638.

Mae gwybodaeth lawn ar gael ar wefan GrantScape ynghylch meini prawf y Gronfa ac ynghylch sut mae gwneud cais: http://www.grantscape.org.uk/grantshome/applyforagrant/CWM1


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle