Datganiad i’r Wasg a’r Cyfryngau ar ran Pwyllgor Rheoli Menter Cwm Gwendraeth Elli

0
500

Penodwyd Cathryn Ings yn Rheolwr Busnes Menter Cwm Gwendraeth yng Ngorffennaf 2012 . Yn dilyn ymddeoliad Deris Williams, cafodd ei hapwyntio yn Brif Swyddog dros dro ar gyfer y cyfnod pontio yn ein cynlluniau ieithyddol hyd at gyfnod yr Eisteddfod eleni.

Penderfyniad unfrydol cyfarwyddwyr y Fenter â’r prif swyddog oedd dod a’r cyfnod dros dro i ben ym mis Ebrill eleni. Penderfyniad ar y cyd rhyngom oedd hwn a bu cyfnod Cathryn wrth y llyw yn frwd o weithgarwch wrth baratoi’r Fenter at gyfnod a chyfres o newidiadau mewnol er mwyn ymateb i her unrhyw erydiad pellach yn hanes yr iaith.

Wedi’r pwyllgor rheoli dewisodd Cadeirydd y cyfnod pontio, Sian Thomas a oedd yn rhan allweddol o’r ail strwythuro hefyd ymddiswyddo cyn diwedd ei chyfnod fel Cadeirydd.

Er mwyn sicrhau sefydlogrwydd y Fenter, etholwyd Dr Wayne Griffiths fel Cadeirydd ac apwyntiwyd Nerys Burton fel Prif Weithredwr.

Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli mewn sefyllfa ariannol gadarn ac yn buddsoddi’n helaeth i gynlluniau cyffrous a blaengar er mwyn ymateb i’r her ieithyddol. Mae’r newidiadau staffio yn adlewyrchu’r cyffro newydd ac rydym oll yn edrych ymlaen at ddyfodol positif ac adeiladol i adfer y trai ieithyddol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle