O ‘Steddfod i ‘Steddfod

0
400

Ar drothwy’r Eisteddfod mae Menter Cwm Gwendraeth Elli, yn enw hirach, a rhychwant ein gweithgareddau iaith wedi ymestyn i nifer o gyfeiriadau ers Eisteddfod yr Urdd yng Nghwm Gwendraeth yn1989. Mae’r Fenter wedi newid ac esblygu ers y dyddiau cynnar wrth inni ddarparu gwasanaethau iaith yn y cwm ond bellach rydym yn gweithredu ar draws ardal ehangach sydd heddiw llawer mwy heriol nag erioed.

Dywedodd Charles Handy, y gwrw sy’n fyd enwog am arwain cwmniau mawr trwy gyfnodau mwyaf anodd o newid, mewn amgylchiadau heriol;

“Nid does amser yn hanes lle mae newid wedi digwydd mor gyflym ac nid yw cyflymder na chyfeiriad y newidiadau yma yn gwneud patrymau mwyach”

Wrth i’r gwanwyn dorri trwy dymor hir y gaeaf a’r hinsawdd wleidyddol ac economi’r wlad daro ar graig ein sefydlogrwydd mae newidiadau yn anorfod os ydym am oroesi i hafau brafiach a ffrwythlon i’r iaith Gymraeg.

Yn yr un modd mae’r Fenter hefyd yn dioddef o effeithiau’r tymhorau yma yn hanes cwmniau bach a mawr ein cenedl ac wedi gorfod ymateb i’r dyletswyddau sydd arnom fel menter iaith i ddatblygu ffyrdd newydd a phwrpasol i ddiwallu’r cyfrifoldebau yma yn effeithiol ac effeithlon.

Bu cyfnod y gaeaf i ni yn gyfnod o holi a thrafod, o ymchwilio a gwrando, o gasglu a dadansoddi ac o asesu ac ymateb. Daeth y gwanwyn a’i newidiadau arferol ond llawer mwy radical i’r gyfundrefn y tro yma. Mae adroddiadau ein cynllunwyr iaith yn arwyddbost i’r newidiadau a’r cyfeiriadau sydd wrth droed ac yn sylfaen i ni adeiladu arnynt ac mae’nt yn ein hannog i dorri ar draws ffiniau arferol a datblygu’r ethos o gydweithio aml-asiantaethol.

Mae’r Fenter wedi ymateb i’r her ac wedi paratoi ar gyfer y newidiadau yma trwy ail strwythuro a chanolbwyntio ar ein cynlluniau iaith a diwylliant a safonau’r elfennau yma yn ôl bwriad y Cynulliad a’r Comisiynydd Iaith, gan adlewyrchu hyn yn ein staff, ein hadrannau a’n busnesau.

Bu cyfnod cyntaf y ras i warchod buddiannau’r iaith yn nwylo Deris a chyflwynodd y baton i Cathryn Ings, dros dro, a bu ei chyfnod hithau yn frwd o weithgarwch wrth baratoi’r Fenter i gyfnod a chyfres o newidiadau mewnol er mwyn ymateb i her yr erydiad pellach sydd yn hanes yr iaith.

I’r perwyl yma bydd y Cwtsh a’r caffi yn uno mewn nod i ganolbwyntio ar fwy o weithgarwch plant a ieuenctid ac mae ein Prif Weithredwr cyfredol, Nerys Burton am ddatblygu cynlluniau iaith cyffrous sy’n tynnu ar dechnoleg fodern er yn glynu at lwyddiannau rhyngbersonol a thorfol llwyddianus y gorffenol yn ogystal. Mae gweithgareddau’r Fenter ar gyfer yr Eisteddfod yn ardal Llanelli yn argoeli’n llwyddianus dros ben ac rydym yn llongyfarch y staff yn fawr yn eu llwyddiant a’u paratoadau ar gyfer yr wyl fawr.

Mae cyfieithu yn hanfodol i bob corff cyhoeddus wrth gwrs ac mae cynlluniau’r Fenter yn byrlymu dan yr wyneb unwaith eto ac fe fyddwn yn cyhoeddi newid mawr a chyfeiriad newydd yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli eleni.

Er mwyn cadw’r newid a’r cyfeiriad mewn trefn a mabwysiadu systemau rheolaeth gadarn i’r cwmni mae’r cyfarwyddwyr hefyd wedi newid rhywfaint sy’n adlewychu eu gwahanol gefndir a meusydd diddordeb. Cawsom arweiniad ein cadeiryddion dros y blynyddoedd a manteisiwn ar y cyfle i ddiolch i Gethin Thomas a dymuno pob llwyddiant iddo fel cadeirydd Eisteddfod Genedlaethol 2014 yn Llanelli eleni a’r cynghorydd Sian Thomas am ei dycnwch a’i dyfalbarhad yn ein cyfnod o newid wrth bontio o un cyfundrefn i’r llall gyda’r holl newidiadau sy’n berthnasol i’r cyfnod o groesi drosodd.

Newid er mwyn goroesi? Fe all fod yn arwyddair inni gyd yn ein gwaith y hyrwyddo’r iaith.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle