Clodfori Gwirfoddolwyr

0
453

Gall wirfoddolwyr ddod â ffrind am ddim i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol i ddathlu wythnos arbennig.

Yn ystod Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr (Mehefin 1-8), mae pob un o wirfoddolwyr yr Ardd yn cael eu hannog i arddangos y gwaith da maen nhw’n ei wneud i’w ffrindiau a’u teuluoedd, ac i fanteisio ar y cyfleuster arbennig ‘Un yn Fwy’ pan fyddan nhw’n dangos eu bathodyn gwirfoddolwr.

Mae’r Ardd yn ffodus o gael criw o fwy na 150 o wirfoddolwyr, sydd wedi rhoi cymorth gwerthfawr iawn ers y cyfnod cyn i’r Ardd agor yn 2000. O yrru bygi, arwain teithiau, garddio, tynnu lluniau, gwaith swyddfa, dosbarthu taflenni a chynorthwyo gydag wyna, gall swyddogaeth gwirfoddolwr fod mor amrywiol ac arbenigol ag y dymuna’r gwirfoddolwr hwnnw. Gall rai gwirfoddolwyr weithio’n dymhorol yn unig, neu am brynhawn y mis; mae gwaith arferol wythnosol gan rai, neu gallant weithio ar y penwythnos yn unig.

Meddai Cydlynydd Gwirfoddoli’r Ardd, Jane Down: “Mae’r gwirfoddolwyr yn aml yn arwyr nas clodforir mewn mudiadau, ac maen nhw’n gweithio’n galed iawn y tu ôl i’r llenni er mwyn sicrhau bod y profiad a gaiff yr ymwelydd yn yr Ardd Fotaneg yn un cofiadwy. Mae’n addas iawn bod yr Wythnos Gwirfoddolwyr yn rhoi cyfle inni ddiolch iddynt am eu gwaith. Mae’r amrywiaeth o dasgau a gweithgareddau y maen nhw’n ymgymeryd â nhw yn rhyfeddol, ac yn dangos gwir frwdfrydedd ac angerdd dros yr Ardd.”

Meddai Bob Andrews o Landdarog, ger Caerfyrddin, sy’n helpu gydag amrwyiaeth o orchwylion – o lenwi amlenni i wyna: “Mae’r Ardd yn le arbennig iawn. Mae fy ngwraig Cyndi a mi yn hoffi gwneud ein rhan; ry’n ni’n credu’n wir ei bod hi’n achos aruthrol o deilwng. Mae’n braf meddwl ein bod ni’n cyfrannu – hyd yn oed yn ein ffordd bychan ni – at lwyddiant y lle gwych hwn, sy’n cael ei fwynhau gan ddegau o filoedd o ymwelwyr o ar draws y byd.”

*Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn ddathliad cenedlaethol o wirfoddolwyr a gwirfoddoli sy’n digwydd yn flynyddol. Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn chwarae rhan enfawr yn codi proffil y miliynau o wirfoddolwyr sy’n cyfrannu’n rheolaidd at ein cymunedau, gan ysbrydoli eraill i wirfoddoli hefyd.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle