Mae Gan yr Ardd ei Chrafangau

0
379

Mae Hebogyddiaeth y Mynyddoedd Du yn ôl yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Sir Gaerfyrddin y penwythnos hwn ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul Mehefin 7 ac 8 am ddau ddiwrnod o arddangosiadau hedfan ysblennydd.

Bydd hebogau Harris, boncathod a thylluan fawr yn esgyn i’r awyr fel rhan o ddwy sioe dyddiol, un am 12 y prynhawn a’r llall am 2pm, a bydd yna gyfle i ymwelwyr roi cynnig ar hebogyddiaeth.

Ac ar Ddydd Sul, bydd y côr enwog o Dalacharn, Cantorion Corran, yn perfformio yn y Tŷ Gwydr Mawr.

Mae’r Ardd ar agor rhng 10yb a 6yh ar y ddau ddiwrnod, a bydd yr arddangosiadau gan yr adar ysglafaethus a pherfformiadau’r côr yn rhad ac am ddim i holl ymwelwyr yr Ardd.

Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau’r Ardd, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667149.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle