Cyngerdd arbennig yn yr arfaeth

0
464

Bydd eich ffefrynnau yn ‘Noson Ola’r Proms’ i gyd i’w clywed yng Nghyngerdd Gŵyl Ifan Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Bydd y Gerddorfa o 40 o aelodau, Symphonica Tywi, yn dychwelyd i’r Ardd ar Ddydd Sadwrn, Mehefin 21 am eu cyngerdd blynyddol am 7.30yh.

Bydd y digwyddiad hwn, sy’n dwyn y teitl ‘Noson yn y Proms’, yn ddathliad arbennig o’r traddodiad Prydeinig a cherddoriaeth gwladgarol ledled Prydain, ac mae’n cymryd lle mewn amgylchiadau syfrdanol y Tý Gwydr Mawr.

Meddai’r Arweinydd, Mike Cottam: “Bydd hi’n ddathliad anhygoel o gerddoriaeth o wledydd Prydain, gan gynnwys clasuron y ‘Proms’ fel Land of Hope and Glory, Rule Britannia, Nimrod o Amrywiaethau Enigma Elgar, I Vow to Thee My Country, yr anthem genedlaethol Gymreig, a llawer mwy.”

Felly gafaelwch mewn baner, gwnewch bicnic, ac ewch i’r Tý Gwydr Mawr ar Noson Gŵyl Ifan ar gyfer ‘Noson yn y Proms’.

Mae tocynnau ar werth am £12 (£10 i aelodau’r Ardd), ac mae’r gyngerdd yn dechrau am 7.30yh.

Am fwy o fanylion am hwn a digwyddiadau eraill yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ewch i www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle