Garddwest yw Digwyddiad y Flwyddyn

0
478

Garddwest Gardeners’ Question Time Radio 4 y BBC yw digwyddiad garddwriaethol y flwyddyn.

Ac ar Ddydd Sul, Mehefin 29, mae’r parti’n cael ei gynnal yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru – y tro cyntaf i hyn ddigwydd y tu allan i Loegr.

Ynghyd â recordio dwy raglen o GQT, bydd digon i gyfle ichi gyfarfod â’ch harwyr garddwriaethol a sgyrsio â’r deallusion garddio mewn amrywiaeth o leoliadau ar y diwrnod.

Pam na wrandawch chi ar ddoethineb Bob Flowerdew yn y Cwt Potiau, neu godi syniadau am sut i wrthsefyll plâu a chlefydau yn yr Ardd oddi wrth Pippa Greenwood. Bydd Peter Gibbs yn dweud wrthym beth i’w ddisgwyl o dywydd yr haf hwn, a gellwch glywed Bunny Guinness yn siarad am ei chyfrol newydd anhygoel Highgrove.

Bydd James Wong wrth law i helpu ysbrydoli ‘Chwyldro yn y Cartref’, a bydd Matthew Wilson yn asesu’r lliwiau anhepgor eleni. Bydd Cadeirydd GQT, Eric Robson, sydd wedi bod wrth y llyw am amser, yn mynd â ni am Dro yng Nghefn Gwlad Cymru er mwyn chwilio am y Tegeirian Llydanwyrdd Fwyaf, tra bydd Matthew Biggs yn trafod ‘ Garddio i Blant’.

Sêr eraill y radio (a’r teledu) fydd yn disgleirio ar y diwrnod hwn, fydd: Toby Buckland, Chris Beardshaw, Alison Pringle a Carole Baxter.

Yn ychwanegol, bydd digon o sgyrsiau a theithiau cerdded, ynghyd â chorau yn perfformio drwy’r dydd yn y Tý Gwydr Mawr, a ffeiriau bwyd a phlanhigion arbennig, er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn diwallu pob angen.

Er mwyn sicrhau tocynnau ar gyfer digwyddiad garddwriaethol pwysicaf y flwyddyn, galwch ein llinell docynnau ar 01558 667148.

Cost y tocynnau fydd £8.50 (ynghyd â ffi llogi o £1.50). Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch GQT@gardenofwales.org.uk

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle