Mae Cymunedau yn Sir Gaerfyrddin yn cael cyfle i ddangos eu bod nhw’n byw mewn hafan hardda’r sir.
Nod cystadleuaeth Hafan Hardda’ Sir Gâr yw annog cymunedau ledled y sir i wisgo eu hardal i fyny yn barod i ddathlu dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol i’r sir.
Dywedodd y Cyng. Keith Davies, yr aelod o’r Bwrdd Gweithredol gyda chyfrifoldeb am yr Eisteddfod Genedlaethol: “Mae hi wedi bod yn gamp enfawr ar gyfer mwyafrif ein pwyllgorau apêl i gyrraedd, a rhagori ar eu targedau ariannol. Dyma gyfle felly i ddathlu’r gwaith called a brwdfrydedd.
“Nod y gystadleuaeth hon yw sicrhau bod Sir Gaerfyrddin yn rhoi croeso Cymreig cynnes i’r Eisteddfod Genedlaethol. Gall pawb sy’n ymweld â’r ardal o bob cwr o Gymru yn gweld blodau, ffenestri siopau prydferth, digon o liw ac wrth gwrs baneri.”
Bernir y gystadleuaeth ar ddydd Llun 28 Gorffenaf, wrth i Gadeirydd y Cyngor Sir, y Cyng. Daff Davies, ymuno â Sulwyn Thomas, y darlledwr Cymreig eiconig a Jean Oliver, gwirffoddolwraig o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ar daith o gwmpas y sir i ddod o hyd i’r hafan hardda’.
Cyhoeddir yr ardal fuddugol a chyflwynir y plac, a noddir gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, am 12 ganol dydd ar ddydd Sul 3 Awst ar lwyfan perfformio Cyngor Sir Gâr a leolir yng nghanol y Maes.
Rheolau sylfaenol
- Gofynnir i gymunedau gydweithio ar sail y pwyllgorau apêl lleol a ddynodwyd.
- Ni fydd hysbys i ardaloedd o ran amseroedd beirniadu yn eu hardal.
- Rhaid i bob ardal sicrhau eu bod yn cadw at bolisïau penodol megis posteri anghyfreithlon a thipio anghyfreithlon.
- Lle bo’n briodol ac angenrheidiol, bydd angen i gystadleuwyr gwblhau ffurflen gais addurniadau tymhorol.
- Aelodau o staff awdurdodedig o’r Cyngor Sir yn unig sydd â’r hawl i osod fflagiau ar golofnau golau o eiddo’r cyngor. Rhaid iddynt ddefnyddio platfform symudol sy’n codi (ni ellir defnyddio ysgol). Am wybodaeth bellach cysylltwch â 01554 742274.
- Cosbir ardaloedd sydd heb gydymffurfio â’r rheoliadau sylfaenol.
- Gellir archebu fflagiau yn rhad ac am ddim gan yr Eisteddfod Genedlaethol.
- Os ydych yn dymuno canfod deunyddiau ychwanegol i harddu yr ardal, eich cyfrifoldeb chi fel ardal yw hynny. Ni fydd y Cyngor Sir yn gyfrifol am unrhyw gostau.
- Bydd y beirniaid yn edrych am gymuned sydd wedi llwyddo i bortreadu’r Eisteddfod ac sydd wedi dod â’r diwylliant a ‘hwyl’ Cymreig y digwyddiad yn eu hardal.
- Hysbysir yr ardal fuddugol ar ddydd Mercher 30 Gorffennaf i sicrhau bod cynrychiolaeth o’r ardal leol yn bresennol i gasglu’r wobr ar ddydd Sul 3 Awst ar Faes yr Eisteddfod.
- Cyfrifoldeb yr ardal fuddugol bydd gosod y plac buddugol o fewn ardal a ddewiswyd.
- Bydd penderfyniad y beirniad yn derfynol.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle