Mae perchnogion cŵn yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu sicrhau nad oes bwriad i gyflwyno gorchmynion rheoli cŵn ym mhob man cyhoeddus.
Daw hyn yn dilyn pryderon gan nifer o bobl sydd wedi clywed si fod y Cyngor Sir yn bwriadu cyflwyno rheolau newydd a fydd yn golygu bod yn rhaid cadw cŵn ar dennyn bob amser.
Mae cynghorwyr wedi trafod y mater o’r blaen mewn ymateb i gwynion gan y cyhoedd.
Bellach, mae’r Cyngor wedi rhoi sicrwydd i bobl nad oes dim bwriad ar hyn o bryd i gyflwyno gorchmynion rheoli cŵn yn unrhyw ran o’r sir.
Byddai deddfau newydd a gyflwynir yn yr hydref yn rhoi’r pŵer i’r Cyngor wneud hyn, ond byddai hynny ond yn digwydd mewn mannau lle mae problemau a hynny ar ôl ymgynghori’n llawn.
Cyflwynir y ddeddfwriaeth newydd gan Lywodraeth y DU i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Disgwylir y bydd yn rhaid aros tan fis Hydref o leiaf cyn y gellid ei defnyddio gan nad yw’r gorchmynion terfynol wedi cael eu llunio eto.
Byddai’r ddeddf newydd sef Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn caniatáu i awdurdodau lleol gyflwyno camau rheoli cŵn o dan y Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored.
Byddai’r pŵer hwn ond yn cael ei ddefnyddio pan fyddai’n briodol i wneud hynny, mewn mannau lle roedd cŵn nad oeddent ar dennyn yn achosi problemau i’r cyhoedd.
Byddai’n rhaid ymgynghori’n llawn ac yn helaeth cyn penderfynu gorfodi’r gorchymyn.
Dywedodd y Cynghorydd Jim Jones, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Faterion Gorfodi: “Rydym ni am sicrhau pobl nad oes dim cynllun gennym i orfodi cadw cŵn ar dennyn bob amser ym mhob man cyhoeddus. A dweud y gwir, ‘does dim cynlluniau gennym o gwbl ar hyn o bryd.
“Bydd y pwerau newydd hyn yn fodd i’r Cyngor orfodi gorchymyn i gadw cŵn ar dennyn mewn man lle bu problemau’n digwydd.
“Byddem ond yn ystyried gwneud hyn os byddai’n ateb synhwyrol a byddem yn ymgynghori ar y mater cyn i’r Cynghorwyr ei ystyried.
“Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn sicrhau perchnogion cŵn nad oes dim cynlluniau ar droed i gyflwyno gorchmynion a bydd gennym bob amser fannau cyhoeddus lle gall cŵn redeg yn rhydd heb fod ar dennyn.
“Byddai’r gorchymyn newydd, pan gaiff ei gyflwyno, ond yn cael ei ddefnyddio i ddatrys materion mewn mannau lle mae problemau’n digwydd.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle