Mae rhannau gan Tchaikovsky, Beethoven, Axl Rose, Darth Vader a Dr Who i gyd i’w chwarae mewn cyngerdd o ganu’r delyn yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Gorffennaf 5 a 6, bydd Shelley Fairplay yn serennu mewn cyngerdd ar benwythnos arbennig sy’n dathlu offeryn cenedlaethol Cymru.
Mae hi wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau hynod o atyniadol yn ymwneud â chanu’r delyn, gan gynnig gweithdai i bob oedran fydd yn rhoi cyfle i unrhywun roi cynnig ar ganu’r offeryn, llwybr hwyliog arbennig ‘dditectif’ o amgylch yr ardd, ynghyd ag arlunio, arddangosiadau, darlithoedd a gwledd i’r clustiau.
Y prif ddigwyddiad fydd cyngerdd Shelley, yn dwyn y teitl Y Dair Cainc: Angerdd, Galar a Llawenydd y bydd yn ei pherfformio am 2.30yp ar y ddau ddiwrnod.
Mae hi wedi treulio chwe mis yn trefnu, dysgu, cyfansoddi a gweithio ar gerddoriaeth sy’n adlewyrchu’r dair thema hon. Mae’r darn yn gweu stori drwy’r ceinciau hyn gan ddefnyddio amrywiaeth o arddulliau cerddorol, gan gynnwys y celtaidd, y clasurol a’r fflamenco, ynghyd â themâu Dr Who a Star Wars.
Meddai Shelley: “Y delyn yw offeryn cenedlaethol Cymru, ond rwy’n siwr nad yw llawer o Gymry wedi cyffwrdd â’r offeryn.”
“Mae’r penwythnos arbennig hwn yn ddigwyddiad teuluol, penwythnos cyfan i rai sydd ddim yn canu’r delyn ddod i fwynhau ac ymgynefino â’r offeryn; i ddysgu, i ganu, i glywed a phrofi – tebyg i sŵ anwylo neu anwesu!”
“Felly, dewch i ddathlu’r offeryn ysblennydd hon gyda ni.”
Am fwy o wybodaeth am y Penwythnos Telynau, ewch i www.harpwales.com/threestrands
Am gyfle i ennill telyn gôl yng nghystadleuaeth Penwythnos Telyn arbennig Shelley, ewch i https://www.facebook.com/HarpistShelleyFairplay
Mae’r Ardd ar agor rhwng 10yb a 6yh. Mae’r tâl mynediad yn £8.50 i oedolion (£7 consesiynau), £4.50 i blant, a thocyn teuluol (2 oedolyn ac hyd 4 o blant) yn £21. Does dim tâl ychwanegol am unrhyw weithgaredd gyda’r delyn.
Am fwy o wybodaeth, ewch i www.gardenofwales.org.uk neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle