Blodau ar eu Gorau

0
332

Mae’r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn gosod allan y carped goch i sêr Diwrnod Blodau Gwyllt Cymru.

Dydd Sul, Gorffennaf 13, yw’ch cyfle i gyfarfod a gwybodusion byd blodau wrth ichi archwilio’t dolydd llawn tegeirianau, a chael cip ar rai o sêr eraill y sioe, a dysgu sut i adnabod blodau gwylltion Cymreig.

A pheidiwch ag anghofio’r gwenyn, ieir bach yr haf a’r gwyfynnod – y peillwyr sydd yn gwneud yr holl hyn yn bosibl. Cewch gyfle hefyd i dreulio amser yn eu cwmni, gyda chyfres o deithiau cerdded a arweinir gan arbenigwyr o amgylch un o ddolydd gwair yr Ardd a reolir mewn dull traddodiadol. Bydd artistiaid, cerflunwyr a gwnïwyr yn ymuno â nhw, fydd yn awyddus i ddangos ichi sut mae blodau gwylltion yn ysbrydoli eu creadigrwydd nhw.

Meddai’r Trefnydd, Bruce Langridge: “Mae’r cyfan yn digwydd o fewn tafliad carreg i Fwyty’r Ardd. Mae’n gyfle arbennig i ymuno â selogion byd y planhigion, artistiaid, llysieuwyr ac arbenigwyr ar beillio, a chael eich hysbrydoli eich hun gan flodau gwylltion Cymru.”

Mae’r hwyl yn dechrau gyda ‘Gwyfynnod yn y Weirglodd’, pan fyddwn ni’n cwrdd â’r maglwraig gwyfynnod, Marigold Oakley, er mwyn canfod pwy sydd wedi bod yn bwydo ein blodau gwylltion dros nos.

Ychwanegodd Bruce: “Ry’n ni’n gobeithio y daw ymwelwyr â’u llyfrau braslunio,eu paentiau a’u standiau gyda nhw, ac eistedd yng nghanol y ddôl a chael eu hysbrydoli gan y planhigion rhyfeddol hyn.”

Mae pob un o weithgareddau Diwrnod Blodau Gwylltion Cymru yn rhad ac am ddim, gyda thaliad mynediad arferol i’r Ardd, sy’n £8.50 i oedolion, £7 i bensiynwyr, £4.50 i blant (5-16) a phlant o dan 5 yn rhad ac am ddm.

Am fwy o wybodaeth am hwn a digwyddiadau eraill yn yr Ardd, ewch i www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle