Ymgynghori ynghylch talu am y cyfleusterau chwaraeon

0
353

Mae ymgynghoriad eang ar waith ynghylch y taliadau arfaethedig am ddefnyddio ac am gynnal a chadw’r meysydd rygbi, pêl-droed, criced a bowlio sy’n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin.

Yn gynharach eleni cytunodd y Cyngor i beidio â rhoi’r cynnydd arfaethedig ar waith tan fis Mawrth 2015, a hynny er mwyn cynnal ymgynghoriad mwy eang cyn rhoi’r mater gerbron yr aelodau unwaith eto.

Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn cynnal a chadw 59 o gyfleusterau chwaraeon, ond mae tua 70 o glybiau chwaraeon eraill yn y sir – yn ardal Caerfyrddin yn bennaf – sy’n hunangynhaliol ac yn gwneud eu gwaith cynnal a chadw eu hunain.

Gan fod gwasgfeydd cynyddol ar yr adnoddau ariannol, nid yw’r Cyngor yn gallu dal ati i roi’r cymhorthdal presennol i’r clybiau, ac mae’n awyddus i gael barn ac awgrymiadau pobl ynghylch pennu strwythur codi tâl – neu ddewisiadau eraill – a fydd yn helpu i sicrhau bod modd i genedlaethau’r dyfodol fwynhau defnyddio’r cyfleusterau hyn.

Gofynnir am farn yr holl glybiau a mudiadau chwaraeon yn y sir – boed yn cael cymhorthdal neu’n eu cynnal eu hunain – ynghyd â’r holl gynghorau tref a chymuned.

Bydd y cyfnod ymgynghori cychwynnol – sy’n cael ei ategu gan gyfres o gyfarfodydd wyneb yn wyneb ynghyd â ‘diwrnodau cyfnewid gwybodaeth’, a gynhelir mewn nifer o fannau ledled y sir – yn diweddu ar Orffennaf 25, 2014.

Rhoddir sylw i’r holl syniadau ac awgrymiadau a gaiff eu cyflwyno yn ystod yr ymgynghoriad, ynghyd â nifer o ddewisiadau posibl eraill, gan gynnwys unrhyw syniadau sy’n deillio o’r ymgynghoriad, strwythur ffioedd diwygiedig, lleihad o ran manyleb y gwaith cynnal a chadw neu o ran amlder y gwaith hwnnw er mwyn lleihau’r costau, a throsglwyddo asedau.

Ar ôl yr ymgynghoriad llunnir adroddiad manwl a fydd yn cael ei roi gerbron yr aelodau fel eu bod yn gallu gwneud penderfyniad gwybodus ar gyfer 2015-16 ac ar ôl hynny.

Cofrestrwch ar – lein i cyfrannu at ein hymgynghoriad ynghylch talu yn y dyfodol am ddefnyddio cyfleusterau chwaraeon sy’n eiddo i’r Cyngor Sir. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01267 228142.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle