Cynhelir penwythnos ryfeddol o gerddoriaeth a dawnsio byd-eang yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Orffennaf 19-20.
Ar Ddydd Sadwrn (19eg), bydd Diwrnod Rhyngwladol y Ddawns yn digwydd, sydd bob amser yn boblogaidd, gyda grwpiau’n ymweld o Petrozavodsk, Karelia, yn Rwsia; Swydd Corc yn Iwerdddon; ynghyd â rhai’n agos i gartre – Dawnswyr Llanarthne – a pharthau eraill o Gymru.
Mae’n olygfa liwgar a difyr bob blwyddyn, gyda’r dawnswyr wrthi mewn lleoliadau amrywiol o amgylch yr Ardd, gan ddechrau gyda phawb yn gorymdaith ar hyd y Rhodfa am 10.30yb.
Am fwy o fanylion, ewch i www.gardenofwales.org.uk
Mae’r naws ryngwladol yr un mor gryf y diwrnod canlynol ar Ddydd Sul (20fed) ar gyfer diwrnod ‘Cerddoriaeth Ryngwladol’ yr Ardd – Ffestifa!
Prif berfformwyr yr Ŵyl eleni yw’r anhygoel Burum, band chwe darn o berfformwyr meistrolgar, sy’n cyfuno jas o ansawdd da â cherddoriaeth gwerin er mwyn creu sŵn grymus ac atgofus.
Fe’u cefnogir gan Rogara Khart, band pync o arddull Rwsiaidd, o’r Cymoedd. Mae’r grŵp theatraidd a llawn ynni hwn yn falch o’u tras ac yn ysu am ddechrau parti.
Yn dechrau’r digwyddiad, bydd prif fand samba Cymru, Samba Galez, o Gaerdydd, fydd yn gwneud ei ffordd ar hyd y Rhodfa mewn seremoni agoriadol bythgofiadwy. Byddan nhw wedyn yn dawnsio ac yn drymio’n wefreidddiol yn Sgwâr y Mileniwm.
Gallwch chi wneud eich rhan hefyd: ewch i’r Tŷ Gwydr Mawr ble fydd y rhyfeddol Gbubemi Amas, a anwyd yn Nigeria, yn arwain cylchoedd drymio trwy gydol y prynhawn. Dewch i roi cynnig ar chwarae’r djembe neu’r conga, a pheth offer taro, neu wisgo mwgwd llwythol a dod yn rhan o’r holl beth.
Ar gyfer y cyfnodau tawelach, bydd cerddoriaeth acwstig o’r band Klezmer (traddodiadol Iddewig) o Sir Gaerfyrddin, y Klezmic Rays, ynghyd â chwaraewyr a pherfformwyr eraill, fydd yn cyfrannu at ddiwrnod llawn o gerddoriaeth, lliw a hwyl.
Mae’r Ardd ar agor rhwng 10yb a 6yh. Y tâl mynediad yw £8.50 i oedolion (£7 consesiynau), £4.50 i blant, gyda thocyn teulu (2 oedolyn ac hyd at 4 o blant) yn £21. Does dim tâl ychwanegol am unrhyw weithgaredd dawnsio a cherddorol.
Am fwy o fanylion am hwn a digwyddiadau eraill yn yr Ardd, ewch i www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle