Ymweld ag Eisteddfod ar gludiant cyhoeddus

0
473

Mae tref Llanelli wedi ei chysylltu’n dda i’r rhwydwaith bysiau a rheilffordd, felly beth am osgoi gyrru ac ymweld â’r Eisteddfod eleni ar gludiant cyhoeddus?

Bydd gwasanaeth bws gwennol am ddim yn rhedeg rhwng gorsafoedd rheilffordd a bws Llanelli a’r Maes, pob 20 munud. Bydd y bws cyntaf yn cychwyn o’r orsaf rheilffordd am 08.05yb, yr orsaf fysiau am 08.10yb, gan ddychwelyd o’r Maes am 08.30yb, a bydd yn rhedeg bob 20 munud i’r Maes tan y bws olaf sy’n gadael yr orsaf rheilffordd am 22.05yh, yr orsaf fysiau am 22.10yh, ac yn dychwelyd o’r Maes am 22.30yh.

Mae trenau’n rhedeg yn aml i, ac o Lanelli ar linell Gorllewin Cymru o Gasnewydd, Caerdydd, Pen-y-bont, Port Talbot, Castell-nedd, Abertawe a Thre-gŵyr, ac o Sir Benfro, Hendy-gwyn a Chaerfyrddin, a gallwch hefyd gyrraedd Llanelli ar reilffordd Calon Cymru o ganolbarth Cymru drwy Lanymddyfri, Llandeilo a Rhydaman.

Ceir cysylltiadau bws da i Lanelli, gyda nifer o wasanaethau rheolaidd o amrywiaeth o gyrchfannau. Gellir defnyddio’r holl wasanaethau canlynol i ddod â chi i ganol Llanelli lle gallwch barhau eich taith i, ac o’r Maes ar y bws wennol, yn ogystal â threulio amser yn nhref Llanelli –

  • 110/111 Abertawe – Gorseinon – Casllwchwr – Llanelli – Porth Tywyn – Cydweli
  • 128 Rhydaman – Cross Hands – Llannon – Llanelli
  • 195 Caerfyrddin – Pontyberem – Cynheidre – Llanelli
  • 196 Caerfyrddin – Pontyberem – Llannon – Llanelli
  • 197 Caerfyrddin – Pontiets – Carwe – Trimsaran – Llanelli
  • 198 Caerfyrddin – Glanyfferi – Cydweli – Trimsaran – Llanelli
  • 400/404 Abertawe – Waunarlwydd – Pontarddulais – Llanelli
  • X11 Caerfyrddin – Cydweli – Porth Tywyn – Llanelli – Abertawe

Mae yna hefyd wasanaethau bws tref yn Llanelli a Phorth Tywyn sy’n gallu dod â chi i gwrdd â’r bysiau gwennol.

Gweithredir pob un o’r bysiau hyn gan First Cymru, felly gallwch fanteisio ar eu hystod eang o arbedion arian ar docynnau, megis teithio diderfyn ar fysiau lleol First am £6.70 y dydd yn unig neu £22 am yr wythnos (tocynnau oedolion, gostyngiadau ar gael ar gyfer pobl ifanc a theuluoedd).

Yn ogystal, bydd y gwasanaethau hyn yn cysylltu y tu hwnt i’r lleoedd a nodir. Er enghraifft os ydych yn teithio o Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan, Aberteifi, Castellnewydd Emlyn, Llansteffan, i gysylltu â’r bysiau hyn, ac yng Ngogledd Sir Gaerfyrddin a De Ceredigion, mae’r gwasanaeth BWCABUS ar gael i’ch cysylltu â’r gwasanaethau hyn hefyd.

Os ydych yn teithio o du allan i Sir Gâr, Ceredigion neu Sir Benfro ar wasanaeth a weithredir gan gwmni bysiau gwahanol, bydd y Tocyn Crwydro Gorllewin Cymru yn dod â chi’r holl ffordd i Lanelli, gan gynnwys y gwasanaethau uchod, am £7.50 y dydd yn unig i oedolion a £4.00 i blant. Mae Tocyn Crwydro wythnosol newydd yn £28 yn unig i oedolion a £14 i blant.

Ac wrth gwrs, gall pob deiliad Tocyn Teithio Rhad Cymru, deithio am ddim ar bob un o’r gwasanaethau hyn.

Mae cynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus yn haws nag ydych yn meddwl – mae’r holl wybodaeth ar gael drwy Traveline Cymru, felly beth am gysylltu â hwy drwy 0871 200 22 33 neu www.TravelineCymru.info i gael gwybodaeth gynhwysfawr am wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ledled y Wlad.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle