Anrheg o Ffair Grefftau’r Haf

0
497

Hoffech chi fod yn berchen ar ddarn dilys o grefftwaith cywrain a wnaed â llaw yng Nghymru? Yna heidiwch i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Sir Gaerfyrddin ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Awst 3 a 4, ar gyfer Ffair Grefftau’r Haf.

O amgylch y Tŷ Gwydr Mawr syfrdanol, fe ddowch chi o hyd i amrywiaeth gyfoethog o stondinau’n cynnig darnau gwych o drysorau crefftus a wnaed â llaw yng Nghymru, ac a fydd yn cynnig cyfle arbennig i ymwelwyr brynu rhoddion ar gyfer pob achlysur. O emwaith prydferth, crochenwaith a chacennau bach, i fyrddau adar, clustogau gwlân Cymreig, sebonau persawrus a wnaed â llaw, a mwy. Cewch hefyd weld ac aroglu’r planhigion canoldirol yn y Tŷ Gwydr Mawr yn eu holl ogoniant.

Meddai trefnydd y digwyddiad, Linsey Perry: “Mae’n bleser cael croesawu crefftwyr lleol i’r Ardd, a rhoi cyfle iddynt arddangos eu cynnyrch yng nghefndir syfrdanol y Tŷ Gwydr Mawr.” Ychwanegodd: “Yr haf yw’r un o’r cyfnodau gorau i ymweld â’n Gardd brydferth. Mae cymaint i’w fwynhau yma – teithiau cerdded llesmeiriol ger y llynnoedd, y Tŷ Trofannol, ein fferyllfa Fictoraidd gyfareddol, cychod gwenyn prysur, yr Ardd Ddeu-Fur adferedig, y Warchodfa Natur, a llawer mwy.”

Hefyd mae’n werth nodi y bydd unrhyw un sy’n prynu tocyn i’r Ardd rhwng nawr a diwedd mis Medi yn gallu ail-ymweld AM DDIM am saith diwrnod ar ôl eu hymweliad – a chymaint o weithiau ag y bydden nhw’n dymuno, cyfle perffaith i ddod yn ôl a mwynhau llawer o’r digwyddiadau eraill yr y’n ni wedi’u trefnu ar gyfer ymwelwyr!

Mae’r Ardd Fotaneg ar agor o 10yb hyd at 6yh (mynediad olaf am 5yp). Am ragor o wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau, ewch i www.gardenofwales.org.uk, galwch 01558 667149, neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle