Iaith Arwyddion yn yr Eisteddfod

0
410

Mae Cyngor Sir Gâr yn hybu Iaith Arwyddion Prydeinig ac ymwybyddiaeth pobl Fyddar yn yr Eisteddfod Genedlaethol dydd Mercher nesaf (6 Awst).

Cynhelir Gweithdai Iaith Arwyddion i Deuluoedd ac Ymwybyddiaeth Pobl Fyddar yn y Babell Hwyl a Dysgu o 1-2 a 4-5 y prynhawn.

Bydd dehongli Iaith Arwyddion yn ystod lansiad Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2014-17 o 10.15-10.30 y bore.

Bydd dehongli Iaith Arwyddion yn y digwyddiadau canlynol ym Mhentre Cyngor Sir Gâr: 12-12.45 a 3-3.45 y prynhawn, Arddangosfa Coginio Brecwast Sir Gâr gan Ddarparwyr Gwyliau Fferm Cefn Gwlad Sir Gâr.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle