Adloniant yr Eisteddfod

0
464

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnal gwledd o adloniant Eisteddfodol ar ei lwyfan ym Mhentre Cyngor Sir Gâr er mwyn hybu talent y Sir.

Mae rhaglen lawn o adloniant o 10am hyd 6pm yn ddyddiol gan gynnwys Ffasiwn Sir Gaerfyrddin yng nghwmni Helen Humphries; coginio gyda Gareth Richards; adloniant cerddorol; theatr; Darganfod Canol Tref Llanelli drwy arddangosiad coginio gan Anna Brown o Blas Llanelly; adloniant gan Eli Eco, Dylan y Ddraig, Gari Gofal a’r Brodyr Gregory; gweithdai rygbi; Darganfod Porth Tywyn yng nghwmni Band Pres Porth Tywyn; arddangosfeydd coginio Caru Bwyd, Casáu Gwastraff gyda Lisa Fearn; hybu cinio ysgol a Sialens Cynnal y Cartref gyda’r Gwasanaethau Tai ac Eiddo a Tudur Phillips o S4C.

Mae’r Babell Hwyl a Dysgu yn darparu cyfuniad o weithgareddau hwyl ac addysgol drwy gynnal gêm ailgylchu, gweithgareddau diogelwch ffyrdd gyda Gari Gofal, digwyddiadau Cymunedau yn Gyntaf, straeon, grŵp gwau, atgofion Eisteddfodol, cyfranogiad tenantiaid, materion ariannol gyda Safonau Masnach, Creu Gardd Hardd, hybu addysg Gymraeg, gwneud medalau a phlannu blodau.

Bydd y Rhaglen swyddogol ar werth ar-lein ac mewn siopau ar draws Cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle