Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a’r Eisteddfod Genedlaethol yn paratoi darpariaeth ar gyfer digwyddiad cynhwysol yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr yn Llanelli rhwng 1-9 Awst.
Mae cynlluniau Cyngor Sir Gâr yn cynnwys darpariaeth chwaraeon Anabledd arbenigol yn cynnwys rygbi cadair olwyn, pêl-rwyd a sesiynau Boccia yn ardal hamdden y Cyngor.
Bydd llwyfan berfformio’r Cyngor yn cynnwys dehongli Iaith Arwyddion Prydeinig ar berfformiadau penodol megis dramâu masnach deg. Cynhelir sesiynau blasu Iaith Arwyddion Prydeinig ym mhrif bafiliwn y Cyngor.
Mae’r Eisteddfod yn darparu parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas ym Marc y Scarlets a bydd bysiau gwennol i’r Meysydd Gŵyl yn cynnig gwasanaeth arbenigol.
Mae’r Cyngor yn rhedeg bws mini trwy Ysgol Heol Goffa i hwyluso symud o gwmpas y Maes gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr lleol.
Dylsai unrhyw sydd eisiau llogi sgwter cysylltu â Byw Bywyd ymlaen llaw drwy ffonio 01286 830101.
Bydd y system gyfieithu ar y pryd yn ddefnyddiol ar gyfer digwyddiadau yn y Pafiliwn i’r rhai sydd â nam Golwg, gan y bydd gwasanaeth disgrifio clywedol ar gael. Mae seddau yn y Pafiliwn wedi eu neilltuo ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a gofalwyr. Mae toiledau hygyrch ym mhob bloc toiledau a bydd Uned dibyniaeth uchel ar y Maes.
Dywedodd aelod Bwrdd Gweithredol y Cyngor dros yr Eisteddfod: “Rwy’n falch fod y Cyngor yn cyfrannu’n sylweddol i sicrhau bod y digwyddiad yn gynhwysol a bod pob ymwelydd yn mwynhau’r Eisteddfod Genedlaethol i’r eithaf.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle