Croeso i’r Eisteddfod

0
448

MAE Cyngor Sir Caerfyrddin wedi croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol yn ôl i’r sir ac i’r Meysydd Gŵyl yn Llanelli am y tro cyntaf ers 2000.

Mae’r Cyngor yn edrych ymlaen at groesawu tua 150,000 o ymwelwyr i’r sir dros yr wythnos nesaf a fydd yn dathlu’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.

Bob blwyddyn, mae’r Eisteddfod yn werth mwy nag £8 miliwn i economi’r sir sy’n ei chynnal, ac mae’r digwyddiad ei hun yn werth £3.4 miliwn.

Mae’r ŵyl yn uchafbwynt prosiect cymunedol dwy flynedd, a ddisgrifiwyd fel cynllun adfywio teithiol pennaf Cymru, sy’n dod â phobl ynghyd o bob cwr o’r sir i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau a digwyddiadau i hybu’r Eisteddfod Genedlaethol.

Yn y cyfnod cyn yr Eisteddfod, mae Cyngor Sir Caerfyrddin, yr Eisteddfod Genedlaethol a Llywodraeth Cymru wedi bod yn hyrwyddo’r cyfleoedd masnachu sydd ar gael i fusnesau Sir Gaerfyrddin drwy gyfres o ddigwyddiadau

“Hoelio Sylw ar eich Busnes” gydag amrywiaeth eang o gyfleoedd caffael.

Yn ystod yr wythnos hon, bydd y sir yn croesawu tua 150,000 o ymwelwyr i’r ardal a fydd yn dathlu’r Gymraeg a diwylliant Cymru.

Mae partneriaid yr Eisteddfod wedi gweithio’n galed i ledaenu’r budd drwy weithio gyda masnachwyr lleol a defnyddio theatr newydd y Ffwrnes i gynnwys canol y dref yn yr ŵyl.

Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau drwy gydol yr wythnos ar safle’r Cyngor ar y Maes sef Pentre Cyngor Sir Gâr. Bydd y digwyddiadau’n dechrau am 10 o’r gloch bob dydd ar y Llwyfan ac yn yr Ardal Hamdden, cyn symud am 11.30 o’r gloch i’r Babell Hwyl a Dysgu.

Cafwyd Derbyniad y Cadeirydd ddoe (Dydd Sadwrn) yn cynnwys cyflwyno Tlws yr Eidalwyr, s’n cael ei gyflwyno bob blwyddyn i sir nawdd yr Eisteddfod Genedlaethol nesaf.

Cyflwynwyd y wobr i’r Eisteddfod yn 1986 gan gyn-garchororion rhyfel o’r Eidal i ddiolch i bobl Cymru am eu caredigrwydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Croesawodd Chris Burns, Prif Weithredwr Cynorthwyol Cyngor Sir Gâr, bawb i’r Eisteddfod o’r Llwyfan Perfformio a chyflwynodd yr adloniant sef y delynores Ffion Morgan, Pump Heol, a’r gantores Ann Davies, Llanarthne.

Dywedodd Garry Nicholas, Llywydd Llys yr Eisteddfod bod pwyllgorau Lleol Sir Gaerfyrddin wedi pasio’r targed o godi £320,000 ac wedi codi £400,000, y swm gorau erioed yn yr Eisteddfod.

Dywedodd y Cyng. Daff Davies, Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Pleser i mi yw estyn croeso cynnes iawn i bawb i’r Meysydd Gŵyl yn Llanelli ac i Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.

“Dyma gyfle i ddathlu gwaith caled ein cymunedau a phwyllgorau ledled Sir Gâr sydd wedi dod at ei gilydd i groesawu’r ŵyl.

“Wrth deitho o gwmpas y sir rydyn ni wedi gweld y croeso cynnes sy’n disgwyl ymwelwyr o bob cwr o Gymru a phellach.”

Cyflwynodd Tlws yr Eidalwyr i’r Cyng. Arwel Jones, Cadeirydd ardal Maldwyn a’r Gororau, Cyngor Sir Powys, yr ardal sy’n croesawu’r Eisteddfod yn 2015.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle