Scarlets yn mabwysiadu .cymru .wales

0
408

Mae’r Scarlets wedi cyhoeddi heddiw y bydd y rhanbarth yn mabwysiadu’r brandiau arlein .cymru .wales.

Maent yn ymuno â rhestr o Bartneriaid Sylfaenu a fydd yn newid i ddefnyddio .cymru neu .wales sydd yn cynnwys S4C, Chwaraeon Cymru, Cyngor y Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.

Fel Partner Sylfaenu o .cymru .wales mae’r Scarlets yn ailddatgan ei ethos o gefnogi’r gymuned rygbi a’r gymuned yn ehangach yng Ngorllewin Cymru a thu hwnt. Mae’r Scarlets yn falch o arwain y ffordd yn maes rygbi yng Nghymru ac yn cefnogi ymgyrch .cymru .wales a fydd yn rhoi sylfaen gadarn i frand Cymru ar draws y byd.

Dywedodd Jon Daniels, Rheolwr Cyffredinol y Scarlets, a oedd yn bresennol ar Faes yr Eisteddfod heddiw: “Mae’r Scarlets yn gwasanaethu ac yn cynrychioli cymuned sydd yn angerddol dros y Gymraeg ym mhopeth a wnawn. Mae’r gymuned hon yn cynnwys pobl a sefydliadau yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol drwy gymuned o Gymry. Rydym yn hynod ymwybodol ein bod yn cynrychioli eu gobeithion a’y dyheadau yn y wlad ac yn fydeang.

“Ry’n ni’n gobeithio y bydd gweld y Scarlets yn un o’r sefydliadau cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu .cymru .wales yn destun balchder iddyn nhw fel y mae i ni. Mae www.scarlets.cymru yn swnio’n iawn ac ry’n ni’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’n partneriaid yn y misoedd nesaf i wneud iddo ddigwydd.”

Aeth ymlaen i ddweud: “Yn union fel y mae ein chwaraewyr talentog, fel Gareth Davies a Ken Owens sydd yma heddiw, yn cael eu cydnabod ar y llwyfan byd-eang yr ydym ni fel Scarlets yn falch o ddangos ein cefnogaeth i Gymru, diwylliant Cymreig, treftadaeth a chwaraeon yn y modd hwn.

“Ni yw’r unig ranbarth Cymreig sydd â Pholisi Iaith Gymreig; rydym yn falch o’n sefyllfa fel rhanbarth sy’n siarad Cymraeg gyda chwaraewyr lleol a staff sy’n falch o ddefnyddio’r iaith, yn ogystal ag ymrwymiad i ddefnyddio’r iaith ar-lein ac yn ein holl lenyddiaeth.”

Dywedodd Ken Owens, bachwr y Scarlets, ei fod yn gefnogol o benderfyniad y Scarlets i fabwysiadu .cymru: “Fel Scarlet balch, a Chymro balch, rwyf wrth fy modd i weld y Scarlets yn mabwysiadu .cymru. Rydym wedi cael y cyfle i gynrychioli Cymru ledled y byd fel unigolion a lle bynnag ry’n ni’n mynd yn y byd mae pobl wastad wedi clywed am y Scarlets.

“Mae gennym hanes balch iawn a chysylltiadau cryf â’n cymuned rygbi. Fe fydd mabwysiadu .cymru yn ein helpu i gael cydnabyddiaeth bellach fel rhanbarth Cymreig balch yn y DU ac yn fyd-eang.”

Dywedodd y cyn Scarlet, Ieuan Evansm Cadeirydd Grŵp Cynghori Cymru ar gyfer Nominet – sydd wedi’u hawdurdodi gan y corf rhyngwladol ICANN i hyrwyddo parth lefel uchaf newydd: “Fel cyn Scarlet rwyf wrth fy modd bod y rhanbarth wedi penderfynu cefnogi’r ymgyrch a dod yn Bartner Sylfaenol. Fe fydd y Scarlets yn paratoi’r ffordd ar gyfer mwy o glybiau chwaraeon a chyrff ar draws Cymru i gefnogi’r ymgyrch yn ogystal â hyrwyddo eu brand a’u gwerthoedd a rhoi Cymru ar y rhyngrwyd.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle