O Belarus i Lanarthne

0
575

Mae cerddoriaeth, hud a lledrith a modelu balwnau yn gampau amlwg yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru dros benwythnos Gŵyl y Banc mis Awst.

Ychwanegwch y byd enwog Cwac Pac at hynny, ac mae gennych chi rywbeth bron at ddant pawb.

Gwesteion arbennig yr Ardd ar Ŵyl y Banc yw’r cantorion gwerin sydd hefyd yn gantorion canu gwledig a chanu Celtaidd, Ragneda – sydd yn ymweld â ni o Belarus. Bydd y grŵp tri darn dieithr hwn yn chwarae cerddoriaeth ethnig eu mamwlad ar eu hofferynnau gwerin eu hun. Bydd Maria, George a Vladimir yn yr Ardd ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Awst 23 a 24.

Ymwelwyr cerddorol eraill yw Cantorion Waterwheel o Aberdulais, fydd yn canu yn y Tŷ Gwydr Mawr ar Ddydd Sadwrn (Awst 23), a Fiddlebox – y ddeuawd gwerin, ffidl a chordion, lleol – fydd yn ein difyrru ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Awst 23 a 24.

Atyniadau eraill ar benwythnos ŵyl y banc yw Jugglestruck, sy’n enwog am eu cysylltiad â Fferm Folly, ac mae eu hud a’u lledrith a’u modelu balwnau deheuig yn sicrhau hwyl i’r teulu i gyd, a’r byd enwog Cwac Pac – lle mae un dyn a phac o hwyaid yn profi medr dau gi defaid. Mae Jugglestruck a Cwac Pac yn ymddangos yn yr Ardd ar Ddydd Llun, Gŵyl y Banc (Awst 25).

Mae pob gweithgaredd ar Benwythnos Ŵyl y Banc yn rhad ac am ddim, gyda thâl mynediad arferol yr Ardd, sy’n £8.50 i oedolion, £7 i’r henoed, £4.50 i blant (5-16), plant o dan 5 am ddim. Mae tocyn teuluol (dau oedolyn ac hyd at pedwar o blant) yn £21 yn unig.

Am fwy o wybodaeth am hwn a digwyddiadau eraill yn yr Ardd, ewch i www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle