Mae gwledd Sbaenaidd yn yr arfaeth am ddau ddiwrnod yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru pan fydd Penwythnos Tapas yn dod â blas o Sbaen i Sir Gaerfyrddin ar Ddydd Sadwrn, Awst 30 a Dydd Dul, Awst 31.
Bydd bwydlen flasus yn gyforiog o Tapas ym Mwyty’r Ardd, stondinau yn gwerthu sangria, estrella, ham hallt, caws, chorizo a churros, ac arddangosiadau coginio yn cynnig cyngor ar sut i wneud eich Tapas eich hun.
Er mwyn sicrhau fod y penwythnos â thipyn o fynd ynddo, bydd ‘na ddawnsio fflamenco, gitarau Sbaenaidd, a sesiynau Zumba Iberaidd.
Bydd yr Ardd yn falch iawn i groesawu Academi Veritas, fydd yn canolbwyntio ar iaith a diwylliant Sbaen – wedi’i anelu at ein hymwelwyr 3-12 oed – trwy gyfrwng gemau, dawns, cerddoriaeth a gwisgo i fyny.
Er mwyn atgyfnerthu hawliad yr Ardd ei bod yn cynnig rhywbeth i bawb, mae hefyd sesiynau pyllau rhwydo (ar Ddydd Sadwrn), Helfa Fawr Pryfed (ar y Dydd Sul), ynghyd â Chwac Pac byd enwog Meirion Owen (ar y ddau ddiwrnod).
Felly, eleni, os nad y’ch chi’n mynd i Sbaen: Viva’r Ardd!.
Bydd pob gweithgaredd ar Benwythnos Tapas yn rhad ac am ddim, gyda thâl mynediad arferol yr Ardd, sy’n £8.50 i oedolion, £7 i’r henoed, £4.50 i blant (5-16), a phlant o dan 5 am ddim. Mae tocyn teuluol (dau oedolyn a hyd at pedwar o blant) yn £21.
Am fwy o wybodaeth am hwn a digwyddiadau eraill yn yr Ardd, ewch i www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.
Darlun: Y grŵp fflamenco Zambra Flamenca, gyda Dixey Ruscelli, sy’n perfformio ar y Penwythnos Tapas, ar Awst 30-31.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle