Pobl yn colli 'miloedd o bunnoedd' yn sgil sgamiau

0
543

Mae swyddogion Safonau Masnach Sir Gaerfyrddin wedi dechrau ymweld â bron 600 o bobl y cafwyd hyd i’w henwau ar restr o bobl hawdd eu twyllo a ddefnyddiwyd gan sgamwyr.

Daeth yr enwau i’r golwg yn sgil gwaith y Ganolfan Sgamiau Genedlaethol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymuno â hi.

Mae’r ymweliadau cyntaf yn digwydd yn Rhydaman ac mae swyddogion wedi siarad â nifer o bobl sydd wedi colli symiau o arian sy’n amrywio o ychydig o gannoedd i rai miloedd o bunnoedd, a hynny yn sgil sgamiau trwy’r post yn bennaf.

Dywedodd Quita Davies, Swyddog Safonau Masnach: “Yn aml iawn, ni fydd pobl yn sylweddoli eu bod wedi cael eu twyllo, neu byddant yn teimlo’n rhy chwithig i gyfaddef iddynt gael eu twyllo gan sgam.

“Yn sgil y wybodaeth a gasglwyd gan y Ganolfan Sgamiau Genedlaethol, rydym wedi gallu ymweld â llawer o bobl, cynnig cymorth iddynt a’u hamddiffyn rhag y troseddwyr hyn.”

Mae’r adain Safonau Masnach wedi cydweithio â Heddlu Dyfed-Powys, a Banc Barclays yn Rhydaman, sy’n helpu i glustnodi dioddefwyr a dosbarthu gwybodaeth i gwsmeriaid ynghylch sgamiau.

Dywedodd y Cynghorydd Jim Jones, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu’r Cyhoedd: “Gall unrhyw un gael ei rwydo gan sgam. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gwbl argyhoeddiadol ac wedi’u cynllunio i dwyllo pobl ddiniwed.

“Bydd yr ymweliadau rhagweithiol hyn yn fodd i atal sgamiau ac amddiffyn teuluoedd rhag eu heffeithiau trychinebus.

“Hoffem ddiolch i Fanc Barclays ac i’n cydweithwyr yn yr Heddlu am eu cymorth. Rydym ni’n gobeithio y bydd llawer o fanciau eraill yn gweithio gyda ni fel rhan o’r fenter hon yn y dyfodol.”

A ydych chi’n credu eich bod chi, neu aelod o’ch teulu wedi dioddef yn sgil sgam neu a ydych chi’n pryderu bod eich enw ar restr o bobl hawdd eu twyllo? Mae arwyddion posibl yn cynnwys derbyn llawer iawn o bost bob dydd.

Hwyrach y byddwch yn sylwi bod aelod o’r teulu’n anfon llawer o sieciau neu archebion post, neu bod eu biliau ffôn yn anarferol o uchel ac yn rhestru rhifau ffôn cyfradd uwch.

Mae’n bosibl y bydd rhai pobl wedi’u hargyhoeddi eu bod wedi ennill gwobr, er bod y wobr o bosibl yn rhy dda i fod yn wir.

Os ydych chi’n pryderu am sgamiau neu os ydych chi’n credu bod rhywun rydych chi’n ei adnabod wedi dioddef yn sgil sgam, rhowch wybod i Wasanaethau Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth drwy ffonio 03454 04 05 06.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle