Mwy o Gŵn yn yr Ardd

0
412

Mae’n amser cymryd yr awenau a threulio mwy o amser gyda’ch ci yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Mae gan yr atyniad hwn yn Sir Gaerfyrddin ddyddiad arall ar gyfer dyddiaduron y rhai sy’n hoffi cŵn: Dydd Sadwrn Medi 20, sy’n dilyn diwrnodau ‘ar brawf’ tebyg y llynedd ac yn gynharach eleni.

Fel arfer, dim ond cŵn tywys a ganiateir ar y safle 568 erw hwn, sy’n cynnwys gwarchodfa natur genedlaethol, a gofynnir i berchnogion cŵn ymddwyn yn gyfrifol ac ystyried ymwelwyr eraill i’r Ardd. Y rheolau sylfaenol yw: rhaid cadw’r cŵn ar dennyn di-estynadwy; rhaid cadw’r cŵn oddi ar y gwelyau blodau, allan o’r adeiladau, a rhaid i berchnogion lanhau ar ôl eu cŵn.

Mae’r Ardd Fotaneg Genedlaethol ar agor rhwng 10yb a 4.30yp. Does dim tâl mynediad i gŵn.

Am fwy o wybodaeth, ewch i www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle