Rhyddhau Llygod Pengrwn y Dŵr ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Cors Fferm y Ffrwd

0
767

Yn ddiweddar daeth nifer o bobl – gan gynnwys swyddogion o Gyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru a’r Cyngor, a nifer o wirfoddolwyr – ynghyd ar safle Cors Fferm y Ffrwd, ger Pen-bre, i ryddhau 200 o lygod pengrwn y dŵr fel rhan o brosiect i ailgyflwyno’r anifail hwn ar safleoedd lle’r oedd yn byw yn y gorffennol. Dewiswyd Cors Fferm y Ffrwd, sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), oherwydd bod yno gynefin rhagorol i lygod pengrwn y dŵr gan gynnwys ffosydd, pyllau, corslwyni a ffen.

Arferai llygod pengrwn y dŵr fod yn gyffredin yn afonydd, camlesi a phyllau Cymru. Fodd bynnag mae lleihad anferth wedi bod o ran eu niferoedd yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf yn sgil colli cynefinoedd ac oherwydd eu bod yn ysglyfaeth i fincod, a bellach maent mewn perygl difrifol.

Y gobaith yw y bydd sefydlu poblogaeth newydd yn y Ffrwd yn galluogi’r llygod pengrwn i fynd ar wasgar yn y cyffiniau gan ymsefydlu o’r newydd yn y ffosydd lleol lle’r arferent fod mor gyffredin.

Mae’r llygod pengrwn a ryddhawyd ar dir Fferm y Ffrwd yn cynnwys epil nifer bychan o lygod pengrwn y dŵr a gafodd eu dal ar safleoedd yn Llanelli hydref diwethaf. Cawsant eu cadw’n gaeth dros y gaeaf ac yna fe’u didolwyd fesul pâr er mwyn magu yn y gwanwyn. Yn ystod y cyfnod yn union cyn y rhyddhau bu Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydweithio â grwpiau cadwraeth a pherchenogion tir yn lleol er mwyn gwella’r cynefinoedd cyfagos ar gyfer llygod pengrwn y dŵr. Bwriwyd ati i glirio ffosydd ac i osod ffensys ar hyd-ddynt er mwyn iddynt fod yn addas i lygod pengrwn y dŵr. Hefyd gwnaed gwaith i fonitro mincod a’u dal yn yr ardaloedd o amgylch gwarchodfa Fferm y Ffrwd.

Yn ogystal â hybu niferoedd llygod pengrwn y dŵr, mae gwella cyflwr y ffosydd o fudd ehangach hefyd. Mae gwella cynefinoedd y ffosydd yn rhoi bod i rwydwaith o goridorau y mae rhywogaethau eraill, megis dyfrgwn ac ystlumod, yn gallu eu defnyddio i symud o amgylch yr ardal. Ar ben hynny mae cael trwch o lystyfiant ar hyd glannau’r dyfrffyrdd yn gwella ansawdd y dŵr drwy arafu a hidlo dŵr a llygryddion sy’n llifo i’r afonydd o’r tir cyfagos.

Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru ar y cyd â Naturiaethwyr Llanelli sy’n berchen ar warchodfa natur Fferm y Ffrwd ac sy’n ei rheoli.

From Carmarthenshire Biodiversity Partnership newsletter June to August 2014.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle