Taith yn ôl drwy Hanes Byd Natur

0
598

Cafodd y 25 o bobl a ddaeth ynghyd gyda’r hwyr ar ddiwrnod hyfryd o haf i ymweld â Phrosiect Corsydd Sir Gaerfyrddin ar Gomin Pyllau Cochion, ger Horeb, amser wrth eu boddau.

Mae Pyllau Cochion yn un o blith chwe chomin sy’n nodedig am eu cynefin corslyd pwysig. Gan taw ar fawndir y byddent yn cerdded roedd angen gwisgo welingtons ar y bobl a ddaeth ynghyd. Dan arweiniad Sam Bosanquet o Gyfoeth Naturiol Cymru aeth y grŵp ar daith i ddarganfod sut y mae corsydd yn cael eu ffurfio ac i ddysgu rhagor am fywyd gwyllt rhyfeddol y math hwn o gynefin.

Disgrifiodd Sam sut y cawsai’r corsydd eu ffurfio dros filoedd o flynyddoedd. Trwy wasgu gwialen fesur i lawr trwy’r fawnog, gwelwyd bod dyfnder y mawn yn fwy na 6 metr – hynny yw bod y mawn hwnnw wedi ymffurfio dros 6000 o flynyddoedd! Cafodd y grŵp gyfle i gael golwg agos ar rai o’r planhigion sy’n nodweddiadol o’r gors – megis migwyn, plu’r gweunydd, llugaeron a’r gwlithlys parasitig sy’n defnyddio dafnau gludiog i ddenu ac i ddal pryfed.

Dysgodd y grŵp fod modd dod o hyd i dystiolaeth – drwy astudio’r creiddiau mawn a godir o gorsydd fel y rhain, gan hoelio sylw ar olion y planhigion a’r paill sydd yn y creiddiau hynny – fod newidiadau wedi bod o ran yr hinsawdd yn y gorffennol. Yn ogystal mae gan y gors dystiolaeth o ffrwydradau gan losgfynyddoedd filoedd o filltiroedd i ffwrdd, a hynny ar ffurf haenen denau o ludw folcanig (teffra) a oedd wedi disgyn ar y gors ac a oedd wedi ei gadw yn y gors.

Cliciwch yma os ydych am gael golwg ar rai o luniau’r ymweliad.

From Carmarthenshire Biodiversity Partnership newsletter June to August 2014.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle