Trawsleoli Cynefin

0
549

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio gyda datblygwr lleol i symud ardal o gynefin glaswelltir corsiog o safle datblygu tai cyfagos i Barc Gwledig Llyn Llech Owain. Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith yn cael ei ariannu gan y datblygwyr fel rhan o’u caniatâd cynllunio.

Mae’r ardal o laswelltir yn gynefin delfrydol ar gyfer glöyn byw prin sef Britheg y Gors Euphydryas aurinia, sydd i’w gael yn yr ardal (ac yn wir, y parc hwn!). Rydym yn gobeithio trwy arbed y darn hwn o gynefin y bydd yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol gan y glöyn byw. Bydd y glaswelltir yn darparu llawer o’r planhigion neithdar a ddefnyddir gan y glöyn byw llawn dwf, lleoedd i aeafgysgu ymysg y twmpathau glaswellt, ac yn bwysicaf oll, mae’n cynnwys Tamaid y Cythraul – sef yr unig blanhigyn y mae’r lindys yn ei fwyta.

Mae’r tyweirch yn cael eu codi gyda theclyn a gynlluniwyd yn arbennig ar beiriant cloddio. Bydd yn torri’r tyweirch yn sgwariau ac yn codi haen o bridd gyda’r dywarchen.

Yna cânt eu cludo i Barc Llyn Llech Owain ar ôl-gerbyd a’u roi yn yr ardal a gliriwyd o bridd gan ddefnyddio teclyn arall a gynlluniwyd yn arbennig.

Bydd y maes yn cael ei fonitro a’i reoli gan Brosiect Britheg y Gors Caeau Mynydd Mawr yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf i weld sut y mae’r glaswelltir yn datblygu yn ei gartref newydd.

From Carmarthenshire Biodiversity Partnership newsletter June to August 2014.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle