Ceir Clasurol

0
529

Bydd ceir modern a chlasurol yn dwyn y sylw i gyd pan fydd aelodau Clwb Selogion MG Abertawe yn galw i mewn i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol ar Daith Geir Bannau’r Brycheiniog ar Ddydd Sul, Medi 28.

Mae’r Trefnydd, Carol Hutson, yn amcangyfrif y bydd tua 50 o geir yn cymryd rhan – a mwy na hynny os bydd y tywydd yn ffafriol.

Meddai: “Bydd nifer fawr o MGBs, MGCs, a Midgets o’r 60au ymlaen yno, ynghyd â MGAs, TF, ZRs, Triumph Stag a Ferrari.”

Mae’r grŵp yn codi arian i Grŵp Cefnogi Dioddefwyr Clefyd Alzheimer Abertawe.

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar agor o 10yb hyd at 6yh.

Am fwy o wybodaeth am hwn a digwyddiadau eraill yn yr Ardd, ewch i www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle