Helfa Drysor

0
462

Cynhelir Penwythnos Henebion Fawr yr Hydref yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Hydref 4 a 5.

Mae addewid o lestri o ansawdd da, gemwaith, arian, brethyn a chelfi, ynghyd â chywreinbethau niferus, a llawer o ddeunydd bach casgladwy.

Felly, rhywbeth at ddant pawb yn y digwyddiad hwn, a drefnwyd gan Henebion y Dderwen, fydd yn defnyddio nifer o leoliadau ar draws yr Ardd gan gynnwys y Babell Fawr, ysblander Rhaglywiaethol Tŷ Principality, a chefndir syfrdanol Tŷ Gwydr Mawr yr Arglwydd Foster.

Meddai’r Trefnydd, Brita Rogers: “Bydd y Ffair yn cynnwys mwy na 50 o stondinau fydd yn arddangos casgliadau Cymreig, gan gynnwys crochenwaith, gemwaith, celf a chelfi. Bydd yno baentiadau a brethyn – gydag amrywiaeth o flancedi Cymreig hefyd yn cael eu dangos.”

Bydd Brita yn addo ysblander o amrywiaethau eang iawn o arddulliau a themâu – o’r Tsieineaidd hynafol, y 60au retro, a’r ffermdy gwledig.

Ychwanegodd: “Ymhlith y newydd-ddyfodiaid i’r digwyddiad hwn yw Tony a Nikki Chadwick, fydd yn arddangos eu casgliad estynedig o grochenwiath Ewenni. Mae’u casgliadau cynhwysfawr eraill yn cynnwys moch Cymreig, cathod, a rhai fasau a llestri syfrdanol. Roedd nifer o ddarnau’r ddau Chadwick yn ddarnau amlwg mewn arddangosfa a gynhaliwyd yn Amgueddfa Abertawe y llynedd.”

Mae Penwythnos Henebion Fawr yr Hydref yn digwydd rhwng 10yb a 4.30yp ar Ddydd Sadwrn, Hydref 4 a Dydd Sul, Hydref 5. Mae digonedd o lefydd parcio am ddim. Mae’r tâl mynediad i’r Ardd ar raddfa gostyngol arbennig o £4.

Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau, ewch i www.gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667149.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle