Bydd mynediad AM DDIM i blant i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ystod yr hanner tymor hwn – sy’n golygu eu bod yn rhydd i gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Fawr Goncyrs Sir Gaerfyrddin.
Mae’r digwyddiad hydrefol traddodiadol hwn yn addo bod yn gystadleuaeth penigamp, gyda’r concro yn dechrau ar Ddydd Sadwrn, Hydref 25 – ond gwaherddir pobi a phiclo concyrs yn llym!
Mae’r gystadleuaeth goncyrs yn un o lawer o weithgareddau a gynigir gan yr atyniad: bydd cerfio pwmpenni, helfa sborion, gwneud eich coron a’ch coronblethau hydrefol eich hun, ynghyd â gwneud modeli o goncyrs – ac ar Ddydd Sul, Hydref 26, bydd Meirion Owen yn arddangos ei Gwac Pac byd enwog.
Mae’r Ardd Fotaneg Genedlaethol ar agor o 10yb hyd at 4.30yp. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle