Hud a Lledrith Anifeiliaid

0
538

Mae’r storiwraig a’r darlunwraig crefftus, Jackie Morris, yn dod â’i dawn hudol i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ystod y gaeaf hwn.

Bydd cariad mawr Jackie at y byd naturiol yn amlwg iawn yn ei sioe gaeafol yn Oriel yr Ardd –sy’n dwyn y teitl Cân y Sgwarnog Aur – gyda phaentiadau a darluniau o’i hoff greaduriaid i gyd, o’i llyfrau poblogaidd sy’n gwerthu fel pys.

Mae ei harddangosfa, sy’n cael ei chynnal rhwng Tachwedd 4 a Ionawr 13, yn cynnwys darluniadau cariadus a thoreithiog o anifeiliaid, sef ei harwyddnod.

Meddai Jackie: “Rwy’n gyffrous iawn i ddod nôl i’r Ardd; dyma’r sioe fawr gyntaf imi ei dangos yng Nghymru ers cyfnod maith.”

“Bydd yr arddangosfa hon yn cynnwys gwaith o Sgwarnog, Arth yr Ia, Ôl Troed y Gath, I’r Dwyrain o’r Haul, I’r Gorllewin o’r Lleuad, ynghyd â phaentiadau a darluniau.”

Mae Jackie yn byw “mewn tý bychan ger y môr wedi’i amgylchynnu gan ddrysni o rosynnod” yn Sir Benfro, ac mae hi wedi cyhoeddi’n ddiweddar Ôl Troed y Gath, oriel brydferth o’i chathod anwes ei hun, yn y presennol a’r gorffennol, a Rhywbeth am Arth – a ddisgrifiwyd gan rai “yn rhyfeddol o gyforiog o eirth”.

Mae ei llyfrau ar werth yn Siop Roddion yr Ardd, ynghyd â chardiau post a phrintiadau.

Mae Cân y Sgwarnog Aur yn Oriel yr Ardd o Dachwedd 4 hyd at Ionawr 13.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle