Prawf Nadoligaidd i Ysgolion

0
630

Mae dal digon o amser i ymrestru ar gyfer y Gystadleuaeth Addurno Coeden Nadolig yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Mae’r gystadleuaeth eleni yn digwydd ar Ddydd Iau, Rhagfyr 4, a’r thema fydd ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’, sy’n nodi canmlwyddiant geni Dylan Thomas.

Bydd ysgolion yn cael eu hamseru wrth addurno ei coeden Nadolig gan ddefnyddio defnydd a ailgylchwyd ac a ailddefnyddiwyd, er mwyn creu addurniadau dychmygus a lliwgar wedi’u seilio ar y thema hon.

Amcan y gystadleuaeth yw:

  • Hyrwyddo cynaliadwyaeth, ailddefnyddio ac ailgylchu defnyddiau.
  • Galluogi disgyblion i roi eu creadigrwydd ar waith
  • Cael hwyl

Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â Kay Bailey ar 01558 667150 kay.bailey@gardenofwales.org.uk

Mae’r gwobrau yn cynnwys arian ac amser i’r ysgolion, ac fe’u rhoddir gan ein noddwyr arbennig : Base Wales, Cled Moses, Gwasanaethau Nwy Cymru, Dŵr Cymru, Amgylcheddol Cwm, a Chyngor Sir Caerfyrddin.

Meddai Swyddog Datblygu Addysg yr Ardd, Nancy Hardy: “Mae hwn yn ddigwyddiad poblogaidd gydag ysgolion, ac yn nodi dechrau tymor y Nadolig inni. Mae’n ddelfrydol ar gyfer eco-gymunedau , ac yn gweddu â maes llafur Cynllunio a Thechnoleg. Mae e hefyd yn darparu gwledd ysblennydd tymhorol i’r llygaid ar gyfer ymwelwyr i’r Ardd.”

Ychwanegodd: “Hoffwn ddiolch i’n holl noddwyr am eu cefnogaeth unwaith eto wrth wneud y digwyddiad hwn yn bosibl.”

Dangosir y coed Nadolig addurniedig yn y Tŷ Gwydr Mawr hyd at y flwyddyn newydd.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle