Yr Anrheg Berffaith!

0
414

Os y’ch chi’n chwilio am syniadau ar gyfer anrheg, dyma’r digwyddiad ichi, gyda chymaint â hyn a mwy wedi ei gasglu o dan yr un to – ac am do!

Cynhelir y Ffair Roddion (Dydd Sadwrn a Dydd Sul, Tachwedd 8-9) yn Nhŷ Gwydr Mawr syfrdanol yr Arglwydd Foster, sef y tŷ gwydr un-bwa mwyaf ar y blaned, a thŷ gwydr hefyd sy’n gwarantu cysgod ichi rhag y glaw!

Meddai Trefnydd y Ffair, Linsey Perry: “Ry’n ni wedi casglu at ei gilydd amrywiaeth eang iawn o arddangoswyr yn gwerthu popeth, o gaws lleol, siocled a chacennau i ategolion plant, clustogau, sebonau, gwaith toriadau, gemwaith, llechi, a llawer mwy.”

Ychwanegodd: “Mae’n lleoliad perffaith i siopa am yr anrheg arbennig ar gyfer yr aelod o’r teulu hwnnw sy’n anodd prynu ar ei gyfer.”

Mae’r Ffair yn agor am 10yb ac yn gorffen am 4.30yp. Am fwy o wybodaeth a newyddion am ddigwyddiadau yn yr Ardd, ewch i www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle