Bydd llu o gyrff nefolaidd yn cael eu harddangos ym ‘Mharti’r Sêr’ yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn hwyrach yn y mis hwn, os cawn ni awyr glir.
Efallai y cawn weld Galaeth Andromeda, y Lleuad, y Saith Seren Siriol, a llawer o sêr a phlanedau eraill ar Ddydd Gwener, Tachwedd 28, pan fydd Cymdeithas Seryddol Abertawe yn cynnal y digwyddiad ‘Syllu ar y Sêr’ nesaf yn yr Ardd Fotaneg, o 6yh tan 9yh. Bydd y syllu yn digwydd yn ac o amgylch y Tŷ Gwydr Mawr – dewch â’ch telesgopau eich hun, yn enwedig os fyddwch hi am help a chyngor.
O fewn cromen byd-enwog yr Arglwydd Foster, bydd dau sgwrs: bydd Popeth am Rosetta (a chomedau eraill) yn rhoi gwybod ichi am gomedau ac asteroidau, ynghyd â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar sut y mae’r llong lanio, Philae, yn dod ymlaen, ac efallai rhai lluniau trawiadol.
Meddai aelod o’r Gymdeithas, Colin Miles: “Mae hwn yn cael ei ystyried yn un o gyflawniadau mwyaf nodedig archwilio’r gofod, i’w gymharu â’r glaniad ar y Lleuad. Y gobaith yw bod canlyniadau unrhyw arbrofion y mae’r llong yn gallu eu cyflawni a’r gwybodaeth a anfonir yn ôl i’r Ddaear yn gallu rhoi cipolwg inni ar esblygiad y Gyfundrefn Heulol, o ble y daw dŵr ar y Ddaear, ac efallai hyd yn oed tarddiad bywyd ei hun.”
Mae mynediad drwy’r Mynediad Corfforaethol yn y cefn, tâl mynediad yn £3 i oedolion, yn rhad ac am ddim i rai dan 16, lluniaeth ar gael. Mae’r sgyrsiau yn dechrau am 6.20yh a’u hailadrodd yn ddiweddarach.
Am fwy o wybodaeth am newyddion a digwyddiadau yn yr Ardd, ewch i www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu galwch 01558 667149.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle